Cwsmeriaid Dŵr Cymru’n cael eu hannog i ddefnyddio dŵr yn ddoeth – er mwyn helpu i arbed arian ac amddiffyn yr amgylchedd
25 Tachwedd 2022
Mae Dŵr Cymru’n helpu ei gwsmeriaid gyda chyngor ar ffyrdd o leihau eu defnydd o ddŵr er lles yr amgylchedd ac er mwyn helpu yn ystod yr argyfwng costau byw.
Gyda biliau ynni’n cynyddu, mae hi’n hawdd anghofio’r effaith y gall dŵr ei gael ar yr amgylchedd ac ar bocedi pobl.
Gallai lleihau defnydd o ddŵr helpu cwsmeriaid i arbed arian ar eu biliau dŵr, lleihau defnydd o ynni a biliau ynni, a helpu i amddiffyn un o’n hadnoddau naturiol mwyaf gwerthfawr. Gall helpu’r cwmni i leihau ei ôl troed carbon hefyd trwy leihau faint o ddŵr y mae angen iddo’i drin a’i bwmpio – dwy broses sy’n ddwys iawn o ran ynni.
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, mae 12% o fil nwy aelwyd yn mynd ar wresogi’r dŵr er mwyn cael cawod, bath a dŵr poeth o’r tap. Mae hyn yn golygu bod cynhesu dŵr mewn cartrefi i gyfrif am tua 5% o holl allyriannau carbon deuocsid y DU..
Mae Dŵr Cymru’n cynghori cwsmeriaid y gall newidiadau syml arbed arian a lleihau eu defnydd o ddŵr. Gall cwsmeriaid wneud i bob diferyn o ddŵr gyfri trwy wneud pethau bach fel cael cawod yn lle bath, a pheidio â berwi mwy o ddŵr nag sydd ei angen ar y pryd yn y tegell.
Dyma rhai camau syml sy’n gallu arbed dŵr ac arian:
- Gallai gosod pen cawod effeithlon arbed tua £70 y flwyddyn i deulu nodweddiadol – hynny yw, £45 oddi ar eu biliau nwy, a tua £25 oddi ar eu biliau dŵr.
- Gall cael cawod pum munud yn lle bath unwaith yr wythnos arbed hyd at £10 y flwyddyn ar fil dŵr aelwyd, a hyd at £10 ar y bil nwy (yn seiliedig ar deulu o bedwar)
- Gallai treulio un funud yn llai yn y gawod bob dydd arbed £8 y flwyddyn, y person oddi ar filiau ynni. Gyda mesurydd dŵr, gallai hyn arbed £11 pellach oddi ar filiau dŵr a charthffosiaeth blynyddol hefyd.
Mae gan Ddŵr Cymru nifer o gynhyrchion arbed dŵr sydd ar gael i gwsmeriaid sy’n defnyddio eu Cyfrifiannell Get Water Fit, sef teclyn ar-lein sy’n darparu awgrymiadau am ffyrdd o arbed dŵr. Mae’r teclyn ar gael yn https://www.dwrcymru.com/cy-gb/help-advice/get-water-fit
Daw’r cyngor yma wrth i Lywodraeth Cymru gynnal Cynhadledd Wythnos Hinsawdd y Byd sy’n canolbwyntio ar dynnu sefydliadau, cymunedau ac unigolion ynghyd i edrych ar y polisïau a’r atebion sydd eu hangen i gynorthwyo’r cyhoedd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd, wrth osod ffocws allweddol ar sialensiau’r argyfwng costau byw.
Yn ogystal â’r cyngor ar ffyrdd o arbed dŵr a lleihau costau dŵr, mae Dŵr Cymru wedi ehangu ei opsiynau cymorth ariannol i gynnig cymorth ychwanegol i 50,000 yn rhagor o aelwydydd sy’n cael eu taro'r gwaethaf gan y cynnydd mewn costau byw – gan arbed hyd at £230 ar eu biliau dŵr blynyddol.
Wrth i aelwydydd yng Nghymru wynebu sialensiau ariannol difrifol, gan gynnwys costau cynyddol bwyd ac ynni, mae Dŵr Cymru’n annog y bobl hynny sy’n derbyn budd-daliadau yn seiliedig ar brawf moddion, fel Credyd Cynhwysol neu Gymhorthdal Incwm, i gysylltu, am y gallent fod yn gymwys i gael cymorth ariannol gyda’u biliau dŵr.
Yr wythnos hon, mae ein timau cymorth i gwsmeriaid cyfeillgar yn mynychu digwyddiadau costau byw yn Cymru lle gall cwsmeriaid sy’n poeni am yr argyfwng costau byw gael sgwrs wyneb yn wyneb i ganfod pa gymorth sydd ar gael iddynt.
Mae’r pecynnau cymorth sydd ar gael yn cynnwys:
- Mesurau cymorth i helpu cwsmeriaid i reoli eu biliau fel gwyliau talu, cynlluniau talu hyblyg, a chyngor ar ffyrdd syml o leihau defnydd o ddŵr.
- Cymorth naill ai trwy ei gynllun “tariffau cymdeithasol” neu trwy gronfa gymunedol newydd
- Lansio cynllun peilot y gronfa gymunedol ym mis Ionawr 2023 i dargedu cwsmeriaid sy’n cael trafferth talu biliau domestig, ond nad ydynt yn gymwys i dderbyn budd-daliadau, ac sy’n gymwys felly am dariffau cymdeithasol Dŵr Cymru.
Dywedodd Sam James, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Domestig Dŵr Cymru: “Bydd llawer o bobl yn cychwyn y gaeaf yn poeni’n ddifrifol am eu harian, neu’n cael trafferth fforddio’r hanfodion oherwydd y cynnydd mewn costau byw, a dyna pam ein bod am atgoffa ein cwsmeriaid ein bod ni yma i helpu. Os ydych chi’n poeni am fforddio talu eich bil dŵr, cofiwch beidio â diodde’n dawel. Mae gennym dîm pwrpasol â’r arbenigedd i’ch cynghori chi ar y gwahanol gynlluniau sydd ar gael. Mae nifer uwch nag erioed o aelwydydd – mwy na 144,000 – bellach yn cael cymorth ariannol gan Ddŵr Cymru, dydych chi ddim ar eich pen eich hun.”
“Mae gennym amrywiaeth o opsiynau o ran cymorth ariannol, a allai helpu i osod cwsmeriaid nôl ar ben ffordd, ac rydyn ni’n annog unrhyw un y gallem ei helpu o bosibl gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Gallwch ffonio neu ddefnyddio ein gwasanaethau cymorth ar lein, ond waeth ben wnewch chi, cewch eich trin â sensitifrwydd a chyfrinachedd.”
Mae help gyda biliau, a gwybodaeth am ein cymorth ariannol ar gael yn www.dwrcymru.com/helpgydabiliau os byddai’n well gennych ymgeisio am gymorth ar lein.