Usk Food Kitchen gael cymorth llaw gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru'r Nadolig hwn
15 Rhagfyr 2022
Bydd bwyd poeth ffres ac iachus ar gael i unrhyw un sydd ei angen ym Mrynbuga’r gaeaf hwn diolch i grŵp o wirfoddolwyr lleol, ac ychydig bach o help llaw gan Ddŵr Cymru.
Mae Usk Food Kitchen yn rhedeg dwywaith yr wythnos, gan ddarparu bwyd poeth ar gyfer dros 40 o gartrefi yn yr ardal. Gwirfoddolwyr lleol sy’n rhedeg y fenter, ac maen nhw’n dibynnu ar gyfraniadau bwyd ac ariannol i sicrhau bod unrhyw un sydd angen pryd poeth yn cael un. Eleni mae’r grŵp wedi cael cymorth ariannol gan Ddŵr Cymru i helpu gyda’i waith da yn rhan o’i Gronfa Gymunedol yn ardal Brynbuga.
Crëwyd y gronfa ar gyfer y dref a’r cyffiniau i gynorthwyo’r gymuned, ac mae’n rhan o fuddsoddiad £10 miliwn y cwmni dŵr nid-er-elw yn yr ardal rhwng nawr a 2025 i uwchraddio’r system dŵr gwastraff.
Dywedodd Gloria Dolan - sylfaenydd Usk Food Kitchen: “Dechreuodd y gegin fwyd ym mis Mai 2020 i helpu pobl mewn angen ar ôl i mi glywed am deulu yn Lloegr oedd yn methu fforddio bwydo eu plant am eu bod wedi colli eu swyddi. Meddyliais i, os oes pobl fel yna gyda ni yn fan hyn, mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n gallu eu bwydo nhw.
“Rydyn ni’n ffeindio bod y rhan fwyaf o’r bobl sy’n cael prydau gennym yn oedrannus, yn byw ar eu pennau eu hunain neu â gwahanol anableddau. Rydyn ni’n darparu prydau ar gyfer pobl sy’n wynebu trafferthion ariannol mawr, sydd ag anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl, neu sy’n ddi-waith. Dim ond gofyn am bryd am ddim sydd angen, ac fe gawn nhw un.
“Mae pob pryd a wnawn ni yma’n cael ei baratoi gan ddefnyddio llysiau ffres, felly rydyn ni’n sicrhau eu bod nhw’n cael bwyd ffres ac iach. Mae hi fel estyn cwtsh iddyn nhw â bwyd! Mae maint da i’r prydau, ac rydyn ni’n aml yn cael adborth eu bod nhw wedi ymestyn i sawl pryd neu berson. Mae’r adborth a gawn ni’n gadarnhaol dros ben bob tro. Mae’r arian a gawsom trwy’r Gronfa Gymunedol wedi helpu gyda chostau bwyd, deunyddiau glanhau a chynnal-a-chadw’r offer coginio.”
Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru ar gael ar gyfer grwpiau cymunedol neu sefydliadau lleol sy’n gallu ymgeisio am symiau rhwng £250 a £1,000 i gynorthwyo eu gweithgareddau. Gallai hynny gynnwys prosiectau cymunedol, digwyddiadau neu brosiectau amgylcheddol.
Rhyddhawyd y gronfa gymunedol i bobl leol ym Mrynbuga i ddiolch iddynt am eu hamynedd wrth i’r cwmni gyflawni gwaith buddsoddi pwysig yn yr ardal. Mae’n rhan o Gronfa Gymunedol ehangach y cwmni sy’n cynorthwyo mentrau cymunedol ar draws ei ardal weithredol.
Bydd y gwaith buddsoddi sydd ar droed ym Mrynbuga’n gwella sut y mae’r system dŵr gwastraff sy’n gwasanaethu’r dref yn gweithredu, a bydd hynny yn ei dro yn helpu i wella ansawdd y dŵr yn afon Wysg.
Mae’r gwaith yn cael ei gyflawni mewn tri cham, gyda’r cam cyntaf yn agosáu at ei derfyn yng ngorsaf bwmpio carthffosiaeth Brynbuga ger y clwb criced. Mae hyn yn cynnwys gosod sgriniau i ddal pethau fel carpion a weips sy’n ffeindio’u ffordd i’r orsaf. Mae’r cwmni wrthi nawr yn cynllunio ar gyfer y cam nesaf a fydd yn cynyddu faint o wastraff sy’n cael ei bwmpio i’r gweithfeydd trin dŵr gwastraff cyfagos er mwyn lleihau nifer y gorlifoedd o orlif storm cyfunol (CSO) yr orsaf. Bydd cam olaf y gwaith yn cynyddu’r capasiti yn y gweithfeydd trin eu hunain.
Dywedodd Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru: “Mae cyflawni’r cynllun buddsoddi hwn er mwyn helpu i amddiffyn ansawdd dŵr afonol ym Mrynbuga yn flaenoriaeth allweddol i ni. Rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i gyflawni hyn, ac mae ein Cronfa Gymunedol yn caniatáu i ni gynorthwyo prosiectau a mentrau sy’n chwarae rhan mor hanfodol wrth dynnu cymunedau fel yr un ym Mrynbuga ynghyd”.
Gall unrhyw grŵp cymunedol, clwb neu sefydliad sydd am ymgeisio i gael grant wneud hynny trwy fynd i yma.