£500 i Glwb Achubwyr Bywyd Cold Knap i ailwampio'u hadeilad


21 Chwefror 2022

Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru Welsh Water wedi dyfarnu £500 i Glwb Achubwyr Bywyd Cold Knap, sef clwb achubwyr bywyd gwirfoddol yn y Barri.

Mae'r clwb yn cynnig hyfforddiant i blant o 7 oed i fyny, mewn sgiliau achub bywyd fel cymorth cyntaf neu ddiogelwch ar y traeth ac yn y môr, er mwyn galluogi iddynt ennill eu gwobr achub bywyd iau.

Mae'r rhodd yma wedi helpu'r clwb i drwsio ac adnewyddu eu hadeilad mewn pryd ar gyfer eu 60-mlwyddiant. Mae'r prosiect ailwampio wedi galluogi'r clwb i barhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer plant, er eu budd nhw ac er budd y gymuned leol.

Dywedodd Michelle Hopkins, sy'n aelod o glwb Achubwyr Bywyd Cold Knap: "Rydyn ni'n ddiolchgar dros ben i'r gwirfoddolwyr ac i Ddŵr Cymru am y rhodd. Maen nhw wedi rhoi golwg ffres yr oedd mawr angen amdano i adeilad y clwb. Roedd hi'n edrych yn ddiflas ac yn ddi-fflach – ond nawr mae'n edrych yn ffres ac yn barod ar gyfer dathliadau ein 60-mlwyddiant yn 2022. Diolch o waelod calon gan bawb ohonom yng Nghlwb Achubwyr Bywyd Cold Knap Cwm Rhondda".

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltu Cymunedau Dŵr Cymru: "Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru'n hapus i gynorthwyo cymuned leol y Barri. Fel sefydliad nid-er-elw, cwsmeriaid sydd wrth galon popeth a wnawn, ac mae cael helpu grwpiau fel clwb Achubwyr Bywyd Cold Knap yn bwysig i ni. Mae hyfforddi'r genhedlaeth nesaf mewn sgiliau achub bywyd yn rhywbeth rydyn ni'n falch o'i gefnogi.’’

Cronfa Gymunedol

Mae ein Cronfa Gymunedol yn gyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal. Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud – ac yn codi arian ar gyfer prosiectau er budd y gymuned – gallech gael gwerth £1,000 o gyllid gan Ddŵr Cymru.

Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru