Mae cynnydd da wedi’i wneud heddiw o ran adfer cyflenwadau ac erbyn hyn mae gennym hyd at 200 o eiddo sy’n dal heb ddŵr yn dilyn y ddadrewi sy’n profi’n arbennig o heriol oherwydd ffactorau wrth i’r rhwydwaith dŵr dychwelyd.
Bydd materion cyflenwad eraill yn yr ardal yn ymwneud yn bennaf â'r cloeon aer yn y system y gwnaethom ragrybuddio cwsmeriaid yn ei chylch a all achosi ymyriadau dros dro pellach i'r cyflenwad. Mae gennym dimau yn gweithio bob awr o'r dydd i ddod o hyd i unrhyw broblemau o'r fath a'u trwsio.
Er gwybodaeth, mae'n bosibl y bydd rhai ardaleodd yn cael eu effeithio gan gollyngiadau nad yw'n gysylltiedig â'r ddadrhewi, sy'n digwydd ar ein rhwydwaith dŵr sydd bron i 30,000 km o hyd o dan amgylchiadau arferol. Unwaith eto mae gennym dimau sy'n delio â'r ddau fater hyn cyn gynted â phosibl.
Rydym yn parhau i gael gorsafoedd dŵr potel mewn gwahanol leoliadau yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt fel mesur rhagofalus.
Byddwn yn parhau i weithio drwy'r nos i ddatrys unrhyw faterion sy'n weddill ac yn parhau i ddefnyddio ein fflyd o danceri dŵr i roi dŵr yn uniongyrchol yn y system. Gall cwsmeriaid hefyd helpu trwy wirio bod unrhyw dapiau nad ydynt yn cael eu defnyddio wedi'u diffodd ac os oes ganddynt gyflenwad dŵr, yna defnyddiwch y dŵr sydd ei angen arnynt yn unig. Hefyd i gwsmeriaid amaethyddol wirio nad oes unrhyw ollyngiadau ar eu pibellau allanol. Bydd hyn i gyd yn helpu'r system i ail-lenwi.
Hoffem unwaith eto ymddiheuro i gwsmeriaid am yr anghyfleustra a achoswyd a diolch iddynt am eu hamynedd parhaus.