Grŵp celfyddydau o Fangor yn derbyn cyllid gan Ddŵr Cymru Welsh Water


19 Ionawr 2022

Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru Welsh Water wedi dyfarnu £500 i Maes-G Showzone; sef grŵp celfyddydau cymunedol ym Mangor.

Diolch i'r cyllid, bu modd i'r grŵp brynu offer hanfodol i gyfoethogi eu sioeau er mwyn cynnig y cyfleoedd a'r profiadau perfformio y mae'r bobl ifanc yn eu haeddu. Cyrhaeddodd y cyllid mewn da bryd ar gyfer eu sioe Nadolig "Every Pantomime that ever there was" a oedd yn cynnwys deg ar hugain o wahanol gymeriadau.

Dywedodd Eirian Williams Roberts, Cyd-sylfaenydd Maes-G Showzone: "Aeth grant bendigedig Dŵr Cymru tuag at gost prynu'r offer sain newydd roeddem mor awyddus i'w gael er mwyn cynnal ein hymarferion a llwyfannu ein cyngerdd garolau a’n Panto Nadolig ffantastig.

"Diolch i'r grant yma, bu modd i ni brynu desg sain ac uwch-seinydd newydd, sy'n fwy na digon da i fodloni ein hanghenion, seinyddion newydd i gyd-fynd â'r amp newydd a seinyddion monitro sydd wedi dod yn offer hanfodol. Seinyddion sy'n pwyntio at y plant wrth iddynt berfformio a chanu yw'r rhain fel eu bod nhw'n gallu clywed y gerddoriaeth eu hunain. Ar y llwyfan â chôr o 30 o'ch cwmpas mae hi bron a bod yn amhosibl clywed y gerddoriaeth rydych chi'n canu iddi oni bai bod gennych seinyddion monitor sy’n cyfeirio'r gerddoriaeth yna atoch chi. Mae'r eitemau hyn wedi bod yn werthfawr dros ben i ni.

"Diolch i garedigrwydd Dŵr Cymru ac eraill, bydd yr offer a brynwyd yn galluogi Showzone i barhau â'r gwaith y mae'n ei wneud gyda'i aelodau, plant na fyddai'n cael manteisio ar y celfyddydau heblaw am ShowZone oherwydd eu hamgylchiadau."

Mae Cronfa Gymunedol y cwmni'n rhoi cyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal. Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud – ac yn codi arian ar gyfer prosiectau er budd y gymuned – gallech chi gael gwerth £1,000 o gyllid gan Ddŵr Cymru.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltu Cymunedau Dŵr Cymru: “Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru'n falch o gefnogi amrywiaeth eang o brosiectau yn y gymuned ar draws ardal weithredol y cwmni. Fel sefydliad nid-er-elw, cwsmeriaid sydd wrth galon popeth a wnawn, ac mae'r cyllid yma'n rhoi cyfle i ni roi rhywbeth nôl i'r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddynt.” Mae hi'n hyfryd gweld sut y mae'r cyllid yma wedi cynorthwyo pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy ganu a pherfformio, ac i rannu eu profiadau yn y gymuned leol ”