Dŵr Cymru'n dyfarnu £60,000 i dros 150 o elusennau a phrosiectau cymunedol lleol yn 2021


4 Ionawr 2022

Fel darparydd gwasanaethau hanfodol a busnes cyfrifol, mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi ymrwymo i roi rhywbeth nôl i gymunedau lleol. Mae dros 150 o elusennau a sefydliadau o bob rhan o Gymru a Sir Henffordd wedi diogelu cyllid o Gronfa Gymunedol y cwmni nid-er-elw.

Mae llawer o brosiectau bioamrywiaeth a chymunedol wedi elwa ar y cyllid diolch i'r fenter gymunedol. Mae'r cyllid a ddyfarnwyd wedi helpu ysgolion i ddatblygu ardaloedd dysgu awyr agored, timau pêl-droed a rygbi i brynu offer newydd gan ddenu mwy o aelodau i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, ac wedi gwella gerddi cymunedol, prynu offer fe y gall gwirfoddolwyr gasglu sbwriel, cynorthwyo i grwpiau Sgowtiaid a sawl un arall. Mae dros £60,000 wedi cael eu dyfarnu i'r prosiectau cyffrous yma ers Ionawr 2021.

Dywedodd Tim Banks, Aelod o Bwyllgor Clwb Pêl-droed Danescourt: “Rydyn ni'n ddiolchgar dros ben i Ddŵr Cymru Welsh Water am eu grant hynod o hael. Mae'r grant wedi bod yn hanfodol wrth ganiatáu i ni uwchraddio a phrynu cit ac offer ychwanegol, ac wrth sicrhau y gallwn ddarparu amgylchedd diogel, difyr a phleserus wrth i ni barhau i dyfu.”

Dywedodd Byron Young, Ysgrifennydd Côr Meibion Morlais: “Bydd yr arian gawsom o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru’n ein helpu ni i gynnal y neuadd a phrynu cadeiriau newydd. Gyda'r cadeiriau newydd, bydd y côr yn gallu cynnig seddi i'r gymuned fwynhau cyngherddau rheolaidd.”

Dywedodd Ian Chriswick, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Bro Dinefwr: “Diolch i'r gronfa a ddyfarnwyd i ni gan Ddŵr Cymru Welsh Water a sefydliadau eraill, bu modd i ni gyflawni gwaith sylweddol i adeiladu ardal ddysgu awyr agored er mwyn hwyluso'r Cwricwlwm Newydd i Gymru. Hoffem ddiolch i Ddŵr Cymru am ein helpu ni i fynd gam yn nes at ein nod!”

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltu Cymunedau Dŵr Cymru: "Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru'n hapus i gynorthwyo grwpiau a chymunedau lleol. Fel sefydliad nid-er-elw, cwsmeriaid sydd wrth galon popeth a wnawn, ac mae'r cyllid yma'n caniatáu i ni roi rhywbeth nôl i'r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddynt.”