Dŵr Cymru’n rhoi hwb i amgylchedd Abergele


16 Tachwedd 2022

Bydd carthffos newydd yn helpu i ddiogelu amgylchedd lleol.

Mae amgylchedd lleol Abergele wedi cael hwb o ganlyniad i gwblhau cynllun buddsoddi gan gwmni dŵr nid-er-elw Dŵr Cymru.

Fel rhan o’i ymrwymiad i ddiogelu’r amgylchedd, mae’r cwmni wedi buddsoddi tua £1.5 miliwn mewn prosiect a fydd yn gwella’r rhwydwaith carthffosiaeth yn yr ardal.

Hyd yma, nid oedd rhai eiddo yn yr ardal wedi gallu cysylltu â’r prif rwydwaith carthffosiaeth ac yn hytrach roedd yn rhaid iddynt ddibynnu ar garthbwll. Ar adegau, gallai’r rhain orlifo a oedd yn ei dro yn achosi risg llygredd i’r amgylchedd o’u cwmpas.

Er mwyn ymdrin â’r sefyllfa, ymgynghorodd y cwmni ag adran iechyd yr amgylchedd Cyngor Conwy a Cyfoeth Naturiol Cymru, cyn dylunio a gosod system garthffosiaeth newydd yn lle’r tanciau septig. Bydd y system garthffosiaeth newydd 780 metr o hyd yn galluogi’r eiddo i gysylltu â’r prif rwydwaith carthffosiaeth a fydd yn cludo’u dŵr gwastraff a’i drin yn ddiogel.

Dywedodd Angela Meadows, Uwch Reolwr Prosiect Dŵr Cymru: "Rydym yn falch o roi’r amgylchedd wrth wraidd y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud fel busnes. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’n hymrwymiad i fuddsoddi’n sylweddol i sicrhau gwasanaethau o’r ansawdd gorau i’r holl gymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, nid nawr yn unig ond yn y dyfodol hefyd.

"Rydym yn gwerthfawrogi y gall ein gwaith fod yn anghyfleus ar adegau, felly gwnaethom ni werthfawrogi’n wirioneddol y cydweithio gan y trigolion lleol wrth i ni weithio yn eu cymuned."

Dywedodd Charlotte Williams, Arweinydd Tîm yr Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn falch o weld y cam sylweddol hwn tuag at ddiogelu ansawdd dŵr ymdrochi ar y rhan hon o’r arfordir."