Dŵr Cymru'n Dangos Technoleg ‘Pŵer Pŵ’ i fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam


9 Tachwedd 2021

Mae Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW), yr unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi croesawu grŵp o fyfyrwyr peirianneg adnewyddadwy a chynaliadwy o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam i weld drostynt eu hunain sut mae'r gweithfeydd treulio anaerobig uwch (AAD) ym Mharc Ynni Pum Rhyd, yn gallu chwistrellu digon o nwy gwyrdd i'r rhwydwaith i bweru 30,000 o gartrefi teuluol.

Mae'r cwmni, sydd ar y trywydd iawn i gynhyrchu mwy o ynni gwyrdd nag erioed o'r blaen eleni, wedi buddsoddi'n helaeth mewn asedau ynni adnewyddadwy mewn blynyddoedd diweddar, gan gynnwys ei barc ynni £36 miliwn yn Wrecsam. Mae’r safle bellach yn cynhyrchu 40GWh o nwy y flwyddyn ar ei ben ei hun – ac mae hyn yn cael ei fwydo i'r rhwydwaith lleol. Mae’r gweithfeydd yn cynhyrchu ynni glân a gwyrdd o slwtsh carthffosiaeth trwy gyfleuster Treulio Anaerobig Uwch (AAD) hollol fodern.

Gyda COP26 yn digwydd yn Glasgow, mae'r cwmni wedi cynnal sesiwn addysg ar gyfer 6,000 o ddisgyblion oed cynradd ar draws Cymru hefyd i'w cynorthwyo i ddatblygu eu gwybodaeth am rôl dŵr a gwastraff wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Ben Burggraff, Pennaeth Ynni DCWW: "Mae gan Ddŵr Cymru dargedau uchelgeisiol i fod 35% yn hunangynhaliol o ran ynni erbyn 2025, a 100% yn ynni niwtral erbyn 2050. Hyd yn hyn eleni, rydyn ni wedi gweld cynydd o 6% yn faint o ynni rydym yn ei gynhyrchu trwy ein portffolio helaeth o ffynonellau adnewyddadwy o gymharu â lefelau 2020. Mae ein safle AAD ym Mhum Rhyd yn esiampl wych o'n gwaith buddsoddi ac arloesi, a pha ffordd well i fyfyrwyr sy'n astudio ynni adnewyddadwu yn ein prifysgol weld y theori ar waith nac ymweld â Phum Rhyd."

Daeth David Sprake, Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd y Rhaglen Peirianneg Adnewyddadwy a Chynaliadwy yng Nglyndŵr Wrecsam gyda'r myfyrwyr. Dywedodd David: “Cawsom ymweliad bendigedig â'r safle, roedd staff Dŵr Cymru'n wych wrth esbonio'r broses a dangos y safle i ni, gan greu diwrnod buddiol ac addysgiadol dros ben i'n myfyrwyr .”

Dywedodd Craig Williams, un o'r myfyrwyr a ddaeth i'r safle: “Roedd yr ymweliad yn agoriad llygad ac yn ddefnyddiol iawn, gan ddangos gwir werth ailddefnyddio gwastraff.”

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Dŵr Cymru Welsh Water ei fod wedi buddsoddi £153 miliwn mewn prosiectau a fydd yn gwella gwasanaethau ac yn helpu i daclo argyfwng y newid yn yr hinsawdd dros y chwe mis diwethaf. Yn ogystal, yn rhan o'i gynllun i fuddsoddi £1.8 biliwn rhwng 2020 a 2025, mae'r cwmni ar y trywydd iawn i gynhyrchu lefelau uwch nag erioed o ynni adnewyddadwy eleni.

Mae Dŵr Cymru, sy'n gwasanaethu dros dair miliwn o bobl ar draws y rhan fwyf o Gymru a rhai rhannau cyfagos o Loegr, yn dibynnu'n drwm ar ynni i ddarparu ei wasanaethau hanfodol. Ar hyn o bryd mae'n cynhyrchu 23% o'i anghenion ynni ei hun trwy ynni'r gwynt, hydro, solar a threulio anaerobig uwch (AAD), gyda'r gweddill yn dod o adnoddau ynni sydd 100% yn adnewyddadwy.

Mae'r cwmni'n bwriadu buddsoddi £21 miliwn pellach er mwyn bod 35% yn hunangynhaliol o ran ynni erbyn 2025. Yn ogystal ag ymrwymo i fod yn garbon-niwtral erbyn 2040, nod y cwmni yw cwtogi 90% ar gyfanswm ei allyriannau carbon erbyn 2030. Rhwng 2020 a 2025, bydd y cwmni'n buddsoddi £765 miliwn yn ei asedau dŵr gwastraff, gyda £101 miliwn yn mynd i wella perfformiad ei orlifoedd storm cyfun yn rhan o'i ymrwymiad i amddiffyn yr amgylchedd.