Dŵr Cymru ar y trywydd i gynhyrchu lefelau uwch nag erioed o ynni gwyrdd


5 Tachwedd 2021

Heddiw mae Dŵr Cymru Welsh Water, yr unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi cyhoeddi ei fod wedi buddsoddi £153 miliwn mewn prosiectau a fydd yn gwella gwasanaethau ac yn helpu i daclo argyfwng y newid yn yr hinsawdd dros y chwe mis diwethaf.

  • Mae'r cwmni wedi buddsoddi £153 miliwn dros y chwe mis diwethaf, gan gynnwys mewn prosiectau i gynhyrchu ynni gwyrdd
  • Gwelwyd cynnydd o 6% yn yr ynni gwyrdd a gynhyrchwyd yn chwe mis cyntaf y flwyddyn
  • Y nod yw bod 35% yn hunangynhaliol o ran ynni erbyn 2025, gyda buddsoddiad pellach o £21 miliwn mewn ynni adnewyddadwy
  • Y cwmni i fuddsoddi £765 miliwn i amddiffyn yr amgylchedd dros y pum mlynedd i 2025

Yn ogystal, yn rhan o'i gynllun i fuddsoddi £1.8 biliwn rhwng 2020 a 2025, mae'r cwmni ar y trywydd iawn i gynhyrchu lefelau uwch nag erioed o ynni adnewyddadwy eleni.

Mae'r cwmni, a gyhoeddodd gynlluniau i gyflawni allyriannau carbon net o sero neu'n well erbyn 2040, yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at ei darged i gynhyrchu'r holl ynni sydd ei angen arno ar gyfer ei weithrediadau ei hun erbyn 2050, a hynny o ffynonellau adnewyddadwy. Mae'r cwmni wedi datgelu ei fod wedi cynyddu 6% ar faint o ynni mae'n ei gynhyrchu o'i bortffolio helaeth o ffynonellau adnewyddadwy eleni o'i gymharu â'r lefelau a welwyd yn 2020. Mae'r cynnydd o 54GWh i 57GWh wedi arbed 849 tunnell o allyriannau carbon, ac mae'r ynni a gynhyrchwyd yn ddigon o ynni i bweru 900 o gartrefi teuluol.

Mae'r cwmni wedi buddsoddi'n drwm mewn asedau ynni adnewyddadwy mewn blynyddoedd diweddar, gan gynnwys ei barc ynni £36 miliwn yn Wrecsam. Mae'r safle hwn ar ei ben ei hun bellach yn cynhyrchu 40 GWh o nwy y flwyddyn - sy'n cael ei fwydo i mewn i’r rhwydwaith lleol ac sy’n ddigon o ynni adnewyddadwy i wresogi tua 30,000 o gartrefi teuluol. Yn fwy diweddar, mae Dŵr Cymru wedi buddsoddi £50 miliwn yn ei Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff ym Mro Morgannwg er mwyn helpu i wella effeithiolrwydd cyffredinol y safle a chynhyrchu ynni glân a gwyrdd o slwtsh carthffosiaeth mewn cyfleuster Treulio Anaerobig Uwch (AAD) hollol fodern. Bydd y safle bellach yn cynhyrchu 16GWh o drydan y flwyddyn, sy'n ddigon o ynni i bweru 4,800 o gartrefi'r flwyddyn, ac yn ddigon i bweru'r gwaith yn ei gyfanrwydd, gan ei gwneud yn safle ynni-niwtral.

Gyda COP26 yn digwydd yn Glasgow, heddiw mae'r cwmni'n cynnal sesiwn addysg cynhadledd fach ar gyfer 60 o ysgolion cynradd ar draws Cymru i'w cynorthwyo i ddatblygu eu gwybodaeth am rôl dŵr a gwastraff wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Wrth drafod y cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS: “Rydw i wrth fy modd i glywed am gynnydd Dŵr Cymru yn erbyn y targedau uchelgeisiol yma. Mae'r cwmni'n gosod y newid yn yr hinsawdd wrth galon popeth y mae'n ei wneud. Mae hyn yn hanfodol yn rhan o ddull ‘Tîm Cymru’ ehangach o weithredu er mwyn creu Cymru gynaliadwy a gwyrdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Dŵr Cymru, sy'n gwasanaethu dros dair miliwn o bobl ar draws y rhan fwyf o Gymru a rhai rhannau cyfagos o Loegr, yn dibynnu'n drwm ar ynni i ddarparu ei wasanaethau hanfodol. Ar hyn o bryd mae'n cynhyrchu 23% o'i anghenion ynni ei hun trwy ynni'r gwynt, hydro, solar a threulio anaerobig uwch (AAD), gyda'r gweddill yn dod o adnoddau ynni sydd 100% yn adnewyddadwy. Mae'r cwmni'n bwriadu buddsoddi £21 miliwn pellach er mwyn bod 35% yn hunangynhaliol o ran ynni erbyn 2025. Yn ogystal ag ymrwymo i fod yn garbon-niwtral erbyn 2040, nod y cwmni yw cwtogi 90% ar gyfanswm ei allyriannau carbon erbyn 2030.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons: "Mae'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn yn destament i sut y mae buddsoddiad Dŵr Cymru mewn gwasanaethau ar gyfer y dyfodol yn canolbwyntio ar yr hirdymor, gan gymryd cyfrifoldeb dros ei rôl wrth reoli'r newid yn yr hinsawdd – sef sialens fwyaf ein hoes.

“Fel cwmni sydd â’i ffocws yn unswydd ar ei gwsmeriaid, mae gwreiddiau Dŵr Cymru'n ddwfn yn y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu ac mae ganddo ymrwymiad parhaus iddyn nhw ac i'n hamgylchedd.


Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry:Mae'r ddyletswydd sydd arnom yn un drom, am y bydd y penderfyniadau a wnawn nawr mewn ymateb i'r newid yn yr hinsawdd yn cael effaith uniongyrchol ar genedlaethau'r dyfodol. Rydyn ni'n rhan o'r hyn sydd wastad wedi bod yn ddiwydiant sy'n defnyddio llawer o ynni, ond mae ein cynnydd hyd yn hyn yn dangos ei bod hi'n bosibl gosod llwybr i net o sero.

"Rydyn ni'n buddsoddi mwy na £61 miliwn mewn gwaith arloesol, fel defnyddio atebion sy'n seiliedig ar fyd natur i drin dŵr gwastraff, ac ymateb i'r newid yn yr hinsawdd trwy ddisodli'r dulliau carbon-ddwys traddodiadol sydd wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol.

"Rydyn ni'n mabwysiadu dull gweithredu ar sail Tîm Cymru ac rydyn ni'n cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, cydweithwyr a chwsmeriaid er mwyn dod o hyd i'r atebion gorau.
"

Mae'r cyhoeddiad yn cyd-daro â'r cwmni'n cyhoeddi ei ganlyniadau ariannol interim ar gyfer 2021-22, sy'n dangos ei fod wedi buddsoddi bron i £1 miliwn y dydd dros y 6 mis diwethaf – gan fuddsoddi £14 miliwn mewn gwelliannau amgylcheddol a fydd yn helpu i amddiffyn ansawdd afonydd a dyfroedd arfordirol ar draws Cymru.

Rhwng 2020 a 2025, bydd y cwmni'n buddsoddi £765 miliwn yn ei asedau dŵr gwastraff, gyda £101 miliwn yn mynd i wella perfformiad ei orlifoedd storm cyfun yn rhan o'i ymrwymiad i amddiffyn yr amgylchedd.