Dŵr Cymru a Lewis Civil Engineering yn codi arian ar gyfer Banc Bwyd Cwm Rhymni am yr ail flwyddyn


21 Rhagfyr 2021

Gyda'r Nadolig ar y gorwel, mae banc bwyd yng Nghwm Rhymni wedi cael hwb ychwanegol diolch i gyfraniadau gan Ddŵr Cymru a'i gwmni partner.

Yn rhan o waith Dŵr Cymru i uwchraddio'r pibellau dŵr yng Nghwm Rhymni, mae'r cwmni a'i gontractwr partner, Lewis Civil Engineering, wedi dod at ei gilydd i gyfrannu £1,000 at Fanc Bwyd Cwm Rhymni er mwyn helpu teuluoedd incwm isel y Nadolig hwn. Mae hyn yn ogystal â'r £6,000 sydd eisoes wedi cael eu cyfrannu at grwpiau cymunedol yng Nghwm Rhymni er mwyn cynorthwyo amrywiaeth eang o brosiectau bendigedig sy'n cael eu cyflawni yn yr ardal.

Mae'r cwmni a'i bartner, sy'n cyflawni'r prosiect buddsoddi £10 miliwn i wella'r system ddŵr yn yr ardal – yn awyddus i roi rhywbeth nôl i'r gymuned wrth iddynt gyflawni eu gwaith yno.

Dywedodd Chris Moore, Rheolwr Cyflawni'r Rhaglen gyda Dŵr Cymru: "Yma yn Dŵr Cymru, mae ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn, ac wrth gynllunio gwaith buddsoddi, ein nod yw sicrhau ein bod ni'n eu gadael nhw mewn gwell sefyllfa. Mae'r flwyddyn yma wedi bod yn un anodd arall i lawer o deuluoedd, ac mae'r angen am gyflenwadau bwyd mewn rhannau o Gwm Rhymni'n uwch nag erioed. Trwy weithio gyda'n contractwyr, Lewis Civil Engineering, rydyn ni wedi gallu cyfrannu swm sylweddol o arian a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i lawer o deuluoedd y Nadolig hwn."

Dywedodd Curtis Hughes, Uwch Reolwr Safle gyda Lewis Civil Engineering: "Gwnaeth yr arian a'r parseli a gyfrannwyd yn 2020 wahaniaeth go iawn i deuluoedd ac unigolion oedd angen cymorth ar y pryd. Rydyn ni'n falch ein bod ni wedi gallu rhoi rhywbeth nôl i'r gymuned eto eleni, a helpu i ddarparu eitemau hanfodol ar gyfer teuluoedd yng Nghwm Rhymni dros gyfnod y Nadolig."

Roedd Steve Jones, Rheolwr Gweithrediadau'r Banc Bwyd, wrth ei fodd ar y rhodd ac esboniodd sut, "Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae'r pandemig wedi golygu bod ein gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio'n ddiflino i sicrhau ein bod ni'n gallu parhau â'n darpariaeth fwyd mewn argyfwng ar gyfnod pan fo angen mawr yn ein cymuned. Mae'r rhoddion sy'n dod i mewn gan bobl fel Dŵr Cymru a Lewis Civil Engineering wedi helpu i sicrhau fod gennym ni'r bwyd a'r adnoddau angenrheidiol i barhau â'n cymorth iddynt i mewn i 2022."