Dŵr Cymru'n Croesawu Caniatâd Cynllunio ar gyfer Safle Cronfeydd Dŵr Eiconaidd


18 Mehefin 2021

Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi bod ei gynlluniau i anadlu bywyd newydd i un o hoff dirnodau'r brifddinas wedi cael sêl bendith Cyngor Caerdydd.

Mae'r cwmni dŵr nid-er-elw, a brynodd prydles 999 mlynedd y safle o Oes Fictoria nôl yn 2016, wedi cael caniatâd i greu hyb i ymwelwyr ar y safle, ynghyd ag amrywiaeth o gyfleusterau hamdden.

Daw hyn ar ôl i'r cwmni gyflawni ymgynghoriad cyn-cynllunio gyda thrigolion lleol, a ddenodd bron i 2,000 o ymatebion, gyda mwy nag 85% o'r ymatebwyr o blaid y cynlluniau, a chwta 5% yn eu gwrthwynebu.

Yn rhan o gynlluniau amgylcheddol uchelgeisiol y cwmni, mae dyluniad y ganolfan ymwelwyr yn cynnwys nodweddion gwyrdd a mesurau i leihau ei ôl troed carbon – gan gynnwys paneli ffotofoltaidd (solar), defnyddio 'nwy gwyrdd' a darpariaeth ar gyfer mwy o bwyntiau gwefru ceir trydan.

Bydd cynlluniau Dŵr Cymru'n dod â hwylio nôl i'r gronfa, ynghyd ag amrywiaeth o chwaraeon dŵr gan gynnwys hwylfyrddio, rhwyf-fyrddio, canŵio, caiacio a chychod picnic trydan.

Ym mhen gogleddol y safle, bydd y cwmni'n creu hyb i ymwelwyr â golygfeydd godidog dros y ddwy gronfa. Bydd yr adeilad dwylawr yn cynnwys ystafelloedd newid, cawodydd a thai bach i hwyluso’r chwaraeon dŵr, yn ogystal ag ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi at ddefnydd y gymuned leol, a chaffi â golygfeydd dros y cronfeydd.

Bydd yn troi'r safle yn hyb ar gyfer addysg hefyd - gan greu Parth Dysgu â thŷ crwn Cymreig, gweithgareddau addysg dan arweiniad gofalwyr, a chyfleoedd profiad gwaith.

Mae dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar safle'r cronfeydd, y naill ar gyfer ffwng cap cwyr a'r llall ar gyfer yr adar sy'n gaeafu yma, ac mae'r cwmni wedi cynnwys nifer o gynigion ecolegol yn y cynlluniau – gan gynnwys creu Parth Cadwraeth dros y Gaeaf ag ynysoedd arnofiol ar gronfa ddŵr Llys-faen i amddiffyn yr adar, cuddfannau adarydda ar yr arglawdd, a Pharth Cadwraeth yng Nghoedwig Gwern-y-Bendy.

Mae Dŵr Cymru wedi treulio rhan helaeth o'r pedair blynedd diwethaf yn cyflawni gwaith adfer ar y safle, a dechreuwyd adlenwi Cronfa Ddŵr Llanisien ym 2019.

Cyflawnwyd arolwg cyn-cynllunio ym mis Awst 2020, a ddenodd dros 1,800 o ymatebion gan drigolion lleol a sefydliadau partner, gydag 86% ohonynt o blaid y cynlluniau.

Dywedodd Pete Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: "Rydyn ni wrth ein boddau i gael caniatâd ffurfiol i'n cynlluniau ar gyfer Llys-faen a Llanisien, a fydd yn adfer yr ased yma sydd mor agos at galon y gymuned yn ôl i'w hen ogoniant ac yn mynd gam ymhellach hefyd.

"Roedd yr ymateb i'n cais cyn-cynllunio'n arwydd hynod o bwysigrwydd y cronfeydd yma i'r ardal ehangach, ac rydyn ni’n hapus iawn y gallwn fynd ati nawr i gyflawni'r cynlluniau bendigedig yma. Fel cwmni nid-er-elw, rydyn ni mewn perchnogaeth ar ran ein cwsmeriaid – ac rydyn ni am greu hyb cynaliadwy y gall pawb ei fwynhau.

"Byddem yn annog pawb sydd â diddordeb i gysylltu â ni i gofrestru fel un o Gyfeillion Llys-faen a Llanisien fel y gallant helpu gyda'n gweithgareddau rheoli cadwraeth er mwyn amddiffyn a chyfoethogi ecoleg unigryw'r safle."