Mike yn rhedeg 100 milltir dros achos da!


18 Mawrth 2021

Penderfynodd un o weithwyr Dŵr Cymru herio’i hun i gadw’n heini a chodi arian at achos da dros y cyfnod clo a llwyddodd i redeg can milltir o gwmpas ei dref.

Mae Mike Taylor yn gweithio i gwmni contractwyr Morgan Sindall Infrastructure, partneriaid Dŵr Cymru, ar brosiect mawr ar y rhwydwaith dŵr gwastraff ym Mharc Caia, Wrecsam. Penderfynodd redeg can milltir ym mis Chwefror i godi arian at Bone Cancer Research Trust, elusen sy’n agos at ei galon. 

Dywedodd Mike, “Rwy’n awyddus i gadw’n heini a chadw’n brysur felly ro’n i’n teimlo y byddai herio fy hunan i redeg 100 milltir yn ffordd o wneud gwahaniaeth, codi ymwybyddiaeth a chodi arian ar gyfer elusen sy’n agos at fy nghalon.”

Mae Mike wedi arfer teithio’n bell ar droed. Ym mis Hydref, cerddodd y pellter o’r de i’r gogledd ac yn ôl, heb adael ei ardal, fel rhan o her gyda chydweithwyr. Ar ôl cerdded 320 milltir ym mis Rhagfyr, roedd Mike yn barod am her arall ym mis Chwefror i’w helpu i gadw’n heini a chael awyr iach, ond mae’n cyfaddef ei bod yn anodd ar brydiau.  

Dywedodd Mike,
“Rydyn ni wedi cael dyddiau oer a gwlyb iawn ym mis Chwefror ac felly roedd yn anodd mynd allan i redeg ambell noson ond roedd gwybod fy mod yn codi arian at achos da a bod pobl wedi fy noddi yn fy ysgogi i ddal ati, mewn glaw, cenllysg a hyd yn oed eira! Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi a fy noddi, gan fy helpu i godi £620 at yr elusen Bone Cancer Research Trust. Rwy’n ei werthfawrogi’n fawr.” 

Dywedodd Sean O'Rourke, Rheolwr Prosiectau Dŵr Cymru, “Mae Mike yn ysbrydoliaeth i weddill y tîm sy’n gweithio ym Mharc Caia. Mae bob amser yn barod i’w herio’i hunan ac mae’n wych ei fod wedi codi cymaint o arian at achos da. Dwi’n siŵr bod ganddo her neu ddwy arall i fyny ei lawes ar gyfer gweddill y flwyddyn ond mae’n haeddu hoe rŵan – llongyfarchiadau, Mike!” 

O ddydd i ddydd, mae Mike yn brysur yn gweithio ar brosiect gwerth £2.3 miliwn i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr gwastraff er mwyn lleihau achosion o lifogydd ym Mharc Caia, Wrecsam. Dechreuodd gwaith y cwmni dŵr nid-er-elw Dŵr Cymru yno ym mis Gorffennaf y llynedd a chaiff ei gwblhau ddechrau Ebrill. Ceir rhagor o wybodaeth am y gwaith yn Yn Eich Ardal