Dŵr Cymru'n Arddangos Cynlluniau Hydrogen yn rhan o Sioe Deithiol DU-eang


20 Hydref 2021

Mae Dŵr Cymru, y cwmni dŵr nid-er-elw cyntaf yng Nghymru a Lloegr, a'r unig un hyd yn hyn, wedi croesawu sioe deithiol DU-eang â char hydrogen sy'n cael ei yrru gan y Gynghrair Datgarboneiddio Nwy (DGA). Mae'r sioe’n ymweld â nifer o brosiectau arloesol ar ei thaith.

Galwodd y sioe – sy'n ymweld â nifer o brosiectau arloesol ar draws y DU – yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru yng Nghaerdydd, ar ei hunig ymweliad â safle yng Nghymru. Rhoddodd hyn gyfle i'r cwmni ddangos ei gynlluniau arloesol i gynhyrchu biomethan a hydrogen fel tanwydd, gan ddefnyddio slwtsh carthion fel deunydd sylfaen.

Mae gan y cwmni bedair canolfan trin slwtsh mawr – ac un o'r rhain yw'r unig system nwy i'r grid yng Nghymru. Mae'r gweithfeydd yn troi bionwy o garthion yn fio-hydrogen adnewyddadwy, gan helpu i ddatgarboneiddio gwres a chludiant trwy fuddsoddi mewn cyfleusterau nwy i'r grid ychwanegol.

Mae Dŵr Cymru, a gyhoeddodd ei fwriad i gyflawni ei darged net o sero erbyn 2040 yn gynharach eleni, yn awyddus i fachu ar bob cyfle i gynhyrchu ynni gwyrdd. Yn ei Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff yng Nghaerdydd, mae'r cwmni wrthi'n cyflawni gwaith asesu hyfywedd i gynhyrchu hyd at 2,000kg o fio-hydrogen y dydd ar y safle.

Byddai 2,000kg y dydd yn ddigon o gynnal fflyd o 100 o fysiau hydrogen. Mae'r cwmni, sy'n cydweithio'n agos â Wales & West Utilities, Costain a Chyngor Caerdydd ar y prosiect yma, yn credu y gall y cyfleuster arfaethedig fod yn hyfyw yn fasnachol.

Wrth drafod y cynlluniau uchelgeisiol, dywedodd Ben Burggraaf, Pennaeth Ynni Dŵr Cymru:

“Mae cynhyrchu bio-methan neu hyd yn oed bio-hydrogen yn gam pwysig tuag at gyflawni ein huchelgais i gyflawni net o sero erbyn 2040 a gwireddu gostyngiad o 90% mewn allyriannau erbyn 2030. Gallai defnyddio'r bionwy i gynhyrchu tanwydd adnewyddadwy gael effaith ddatgarboneiddio sydd hyd at 10 gwaith yn fwy nag y byddai o'i ddefnyddio i gynhyrchu trydan adnewyddadwy, yn enwedig o gyfuno hyn â'r dechnoleg Casglu, Defnyddio a Storio Carbon, er enghraifft wrth gynhyrchu CO2 graddfa fwyd”.

Dywedodd Matt Hindle, Pennaeth Sero Net a Chynaliadwyedd Wales & West Utilities:

"Yn Wales & West Utilities, rydyn ni'n buddsoddi £400m rhwng 2021 a 2026 er mwyn paratoi'r rhwydwaith nwy ar gyfer y dyfodol, felly mae'n hyfryd clywed am ymrwymiad Dŵr Cymru at hydrogen a biomethan.

"Bydd nwy gwyrdd yn chwarae rôl allweddol wrth ddatgarboneiddio cartrefi, diwydiant trwm a chludiant, ac eisoes mae'r biomethan sy'n mynd i'r grid nwy o safle Dŵr Cymru yn y gogledd wedi datgarboneiddio gwres domestig yr hyn sy'n cyfateb â dros 4,500 o gartrefi a busnesau, gan gwtogi rhyw 10,000 o dunelli ar yr allyriannau carbon.

“Rhaid i'r blynyddoedd 2020 fod yn ddegawd o gyflawni, lle'r ydyn ni'n rhoi'r gwaith ymchwil a datblygu sydd wedi bod yn cael ei wneud ar nwy gwyrdd ar waith. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda Dŵr Cymru i gyflawni ein huchelgeisiau Net o Sero ni'n dau ar gyfer Cymru”

Wrth drafod y Sioe deithiol, dywedodd Chris Barron, cadeirydd DGA: “Gall hydrogen - fel sawl nwy datgarboneiddedig arall - ein helpu ni i ddiwallu angen dybryd y DU am allyriannau net o sero i'r hinsawdd mewn ffordd sy’n ddiogel, â chost isel, heb fawr o drafferth, a hynny wrth greu miloedd o swyddi cynaliadwy ar draws y wlad.

“Mae gan hyn rôl arbennig o werthfawr i'w chwarae yn y sectorau sy'n anodd eu datgarboneiddio – fel cludiant, diwydiant a gwres. Fel cenedl, rydyn ni'n dibynnu'n drwm ar y diwydiannau hyn, ond maent i gyfrif am 40% o nwyon tŷ gwydr y DU. Nhw felly yw’r eliffant yn yr ystafell fel petai, os na fyddwn ni'n cydweithio i greu llwybr hyfyw i seilwaith ynni â net o sero.”