Cronfa Gymunedol yn helpu chwaraewyr gêmau bwrdd yn y cyfnod clo


1 Mehefin 2021

Mae Dŵr Cymru wedi rhoi £1500 o’i Gronfa Gymunedol i bum grŵp cymunedol yn Swydd Henffordd. Mae hyn yn rhan o gynllun buddsoddi gwerth £10 miliwn gan y cwmni nid-er-elw i uwchraddio’r pibellau dŵr rhwng Cronfa Ddŵr Bewdley Bank a chyrion dinas Henffordd.

Ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus roedd yr Herefordshire Board Gamers, grŵp cymunedol yn Swydd Henffordd sy’n codi arian ac yn darparu gêmau bwrdd ar gyfer teuluoedd a phobl o bob oed. Trwy gydol y cyfnod clo, maent wedi bod yn cyfarfod ar lein ond buont hefyd yn edrych ar ffyrdd newydd o sicrhau bod pobl yn cael gêmau yn eu cartrefi i’w difyrru yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Dywedodd Adam Best, sefydlydd yr Herefordshire Board Gamers: “Mae’r grant wedi bod yn help mawr. Rydym wedi rhoi benthyg gêmau i nifer o gartrefi a theuluoedd yn ystod y cyfnod clo, gan sicrhau eu bod yn cael oriau o hwyl.”

Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn gyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal nhw. Os ydych yn byw mewn ardal lle mae’r cwmni’n gweithio – a’ch bod yn codi arian at brosiectau er budd y gymuned – gallech gael hyd at £1,000 gan Dŵr Cymru.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol gyda Dŵr Cymru: “Mae’n bleser gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru gefnogi prosiectau cymunedol amrywiol ledled Swydd Henffordd. A ninnau’n gwmni nid-er-elw, ein cwsmeriaid sydd wrth galon ein holl waith ac mae’r Gronfa yn ein galluogi i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddynt.”

Y grwpiau cymunedol eraill a gafodd arian o Gronfa Gymunedol y cwmni yw Holmer Church of England Academy, Hereford Yoga Community Interest Company, The Growing Local Community Interest Company a New Leaf Sustainable Development.

Os hoffech wybod mwy am Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru, ewch i Cronfa-Gymunedol.