Dŵr Cymru'n annog cwsmeriaid i roi cic i’r bloc


22 Rhagfyr 2020

  • Gweithwyr Dŵr Cymru'n tynnu talp o weips ac eitemau sy’n cynnwys caniau erosol a phâr o esgidiau pêl-droed o garthffos yng Nglyn-nedd.
  • Roedd y garthffos gyhoeddus wedi ei blocio, ac achoswyd difrod i system ddraenio breifat un cwsmer.
  • Cymrodd hi dair awr i weithwyr Dŵr Cymru glirio'r bloc. 

Cafodd amrywiaeth digon od o eitemau eu tynnu o garthffos gyhoeddus yng Nglyn-nedd wrth glirio bloc oedd yn agos at achosi llifogydd carthion ac a achosodd ddifrod i gysylltiad draenio preifat un cwsmer.

Galwyd gweithredwyr Dŵr Cymru i'r safle ar ôl i gwsmer gysylltu i ddweud bod problem, a chymerodd hi dros dair awr i ddau weithredwr carthffosiaeth, Mark Boobier a Chris Sheehan, glirio'r bloc. 

Tynnodd y pâr amrywiaeth o eitemau o'r garthffos; nifer fawr o weips - digon o lenwi tua dau sach sbwriel - ac eitemau oedd yn cynnwys cynwysyddion plastig, can erosol nwy, a hyd yn oed pâr o esgidiau pêl-droed.



Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, yn galw ar ei holl gwsmeriaid i fflysio dim ond 'pi-pi, pŵ a phapur' i lawr y tŷ bach. Gyda'r Nadolig yn dod, mae'r cwmni'n rhybuddio hefyd bod braster, olew a saim sy'n cael ei arllwys i lawr y sinc yn gallu ceulo a chronni yn y garthffos gan beri iddi orlifo.

Mae gweithredwyr Dŵr Cymru'n taclo tua 20,000 bloc y flwyddyn, ar gost o ryw £5 miliwn y flwyddyn i'r cwmni - arian a allai gael ei wario ar ei wasanaethau neu ar leihau biliau cwsmeriaid fel arall. 

Dywedodd Paul Kingdon, Pennaeth Rhwydweithiau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru: "Mae'r digwyddiad hwn yng Nglyn-nedd yn ein hatgoffa taw dim ond y tri 'p' ddylai fynd i'ch tai bach - pi-pi, pŵ a phapur. Gall fflysio eitemau eraill achosi llifogydd erchyll yn eich cartref - gan achosi trallod a chostau ychwanegol nad oes neb am eu hwynebu, yn enwedig dros gyfnod yr ŵyl.

“Mae un weip yn ddigon i flocio’ch pibell garthffosiaeth - heb sôn am rai o'r eitemau mwy annisgwyl rydyn ni'n eu tynnu o garthffosydd yn aml. Rydyn ni wedi tynnu eitemau digon od sydd wedi cael eu taflu neu eu fflysio gan y cyhoedd dros y blynyddoedd. O deganau meddal i neidr fyw! Nawr gallwn ni adio esgidiau pêl-droed at y rhestr. Ond gydag ychydig bach o ymdrech - i roi'r pethau hyn yn y bin neu eu hailgylchu - gallwch chi ein helpu ni i roi cic i'r bloc.”

Mae Dŵr Cymru'n cynnal ei ymgyrch "Stop cyn creu Bloc" er mwyn tynnu sylw at y peryglon sydd ynghlwm wrth fflysio deunyddiau a allai dagu'r pibellau. Am wybodaeth am sut i osgoi llifogydd yn eich cartref, ewch i dwrcymru.com/stoptheblock