People Icon

Dŵr Cymru wedi’i gynnwys yn y 50 uchaf mewn arolwg cenedlaethol o foddhad cwsmeriaid


30 Ionawr 2020

Ar 23 Ionawr, cyhoeddwyd taw Dŵr Cymru yw’r cwmni dŵr cyntaf erioed i gael ei gynnwys yn y 50 uchaf mewn arolwg cenedlaethol o foddhad cwsmeriaid a gyflawnwyd gan y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid (ICS). Dŵr Cymru oedd y cwmni Cyfleustod gorau yn ôl Mynegai Boddhad Cwsmeriaid y DU (UKCSI), gan drechu gweddill y Sector Dŵr ac Ynni.

Mae ICS yn cyflawni arolygon ymhlith defnyddwyr bob chwe mis er mwyn mesur boddhad cwsmeriaid ar draws 13 sector o’r economi. Drwyddi draw, mae’r sgôr gyfartalog ar gyfer yr holl gwmnïau wedi disgyn i 76.9, a chyfartaledd sector y cyfleustodau yw 72.3.

Sgôr Dŵr Cymru o’r arolwg oedd 80.4, sy’n golygu ei fod yn yr 20% uchaf o gwmnïau yn gyffredinol, yn safle 45 o 259 cwmni ar draws y DU.

Dywedodd Alun Shurmer, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chysylltu Cwsmeriaid y cwmni: “Diolch o galon a llongyfarchiadau gwresog i’n cydweithwyr am y gamp aruthrol yma. Yn sgil cyflwyniad C-MeX (y mesur rheoliadol newydd o foddhad cwsmeriaid), mae hyn yn gam gwych i’r cyfeiriad iawn, ac mae’n ategu’r ffaith ein bod ni’n gwneud y peth iawn i’n cwsmeriaid ac yn cadw’r ffaith fod pob un funud yn bwysig mewn golwg. Bydd hyn yn sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein gweledigaeth i ennill ffydd ein cwsmeriaid ynom bob un dydd.” ;