Datganiad am ffilmio ar safle Llyn Brenig


25 Awst 2020

Rydym yn cymryd ein rôl fel gwarchodwyr yr amgylchedd o ddifri ac, wrth ganiatáu gweithgareddau ar ein safleoedd, cymerwn ofal mawr i sicrhau nad ydynt yn amharu ar fywyd gwyllt.

Yn ystod y gwaith ffilmio dros dro ar safle Llyn Brenig, rydym wedi cymryd camau i sicrhau nad yw’n amharu ar fywyd gwyllt, yn cynnwys gweilch y pysgod. Gwneir yr holl waith y tu allan i ardal wahardd o 150m – y cytunwyd arni gyda’n rheoleiddwyr amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru – o gwmpas nyth gweilch y pysgod. Nid oes generaduron o fewn 250m i’r nyth a phan ddefnyddiwyd fflerau ddoe, roedd hynny 600m o’r nyth ac yn wynebu i’r cyfeiriad arall. Ni chafodd coed eu cwympo at ofynion ffilmio yn yr ardal.

Rydym yn gwylio’n ofalus i sicrhau nad yw’r gweithgareddau na’r offer a ddefnyddir yn amharu ar adar yn yr ardal. Ar sail ymddygiad blaenorol gweilch y pysgod ar y safle, rydym yn ffyddiog bod eu hymddygiad ar hyn o bryd – yn cynnwys gadael y nyth –  yn cyfateb i’r hyn y byddai disgwyl iddo ddigwydd yn naturiol yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi bod wrthi’n annibynnol yn gwylio’r adar yn clwydo mewn coed yn agos iawn at y nyth yn ystod peth o’r gwaith ffilmio.