Finance Icon

Dŵr Cymru i fuddsoddi £1.8 miliwn i uwchraddio rhwydwaith dŵr gwastraff Penperlleni


25 Mawrth 2019

Bydd gwaith ar fuddsoddiad £1.8 miliwn Dŵr Cymru i uwchraddio'r system dŵr gwastraff ym Mhenperlleni’n dechrau ym mis Ebrill. Bydd y gwaith yn helpu i amddiffyn eiddo yn yr ardal rhag llifogydd mewn cyfnodau o law trwm.

Mae'r cwmni'n bwriadu gosod tua chilomedr o bibellau newydd sbon ar hyd Heol y Drenewydd, Heol yr Eglwys a Longhouse Barn, yn ogystal â rhan fer o bibell ar dir preifat ger Heol yr Eglwys. Mae'r cwmni dŵr nid-er-elw'n bwriadu gwneud gwelliannau sylweddol i sut y mae'r system dŵr gwastraff yn gweithio yn yr ardal trwy gynyddu capasiti'r rhwydwaith. Mae'r gwaith yn cynnwys gosod tanc storio newydd ar dir preifat hefyd, a fydd yn helpu i ddarparu manteision amgylcheddol yn yr ardal am flynyddoedd i ddod.

Rhagwelir y caiff y gwaith ei gwblhau tua diwedd Tachwedd.

Mae gwaith eisoes wedi cael ei wneud i glirio rhai o'r coed er mwyn creu llwybr ar gyfer rhan o'r bibell ar dir preifat. Cafodd y gwaith yma ei fonitro'n ofalus gan ecolegydd er mwyn sicrhau ei fod yn effeithio cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd lleol, ac amserwyd y gwaith fel y byddai’n cael ei gyflawni y tu hwnt i'r tymor nythu. Bydd y cwmni'n parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos ar ôl dechrau'r gwaith i osod y pibellau newydd er mwyn amddiffyn bywyd gwyllt a'r amgylchedd trwy gydol y prosiect.

Dywedodd Dirprwy Reolwr Rhaglen Dŵr Cymru, Paul Dwyer: "Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau ein bod ni'n darparu system dŵr gwastraff effeithiol sy'n darparu gwasanaeth o'r safon uchaf ar gyfer cwsmeriaid ac yn amddiffyn ein hamgylchedd gwerthfawr. Mae ein gwaith ym Mhenperlleni'n adlewyrchu ein hymrwymiad i ail-fuddsoddi elw er budd cwsmeriaid a'r amgylchedd."

“Er diogelwch y cyhoedd, modurwyr a'n gweithlu, bydd angen i ni gau rhai ffyrdd wrth gyflawni'r gwaith yn Heol y Drenewydd a Heol yr Eglwys. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r awdurdod lleol i bennu’r dyddiadau pan fydd y ffyrdd ar gau, ac rydyn ni wedi hysbysu trigolion a busnesau lleol yn hynny o beth. Bydd arwyddion clir i ddangos llwybr y gwyriadau yn ystod y gwaith. Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth am sut mae pethau'n mynd â’r trigolion yn gyson wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.

“Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod gwaith o'r math yma'n gallu achosi anghyfleustra, ond fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned, a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd wrth i ni gyflawni'r gwaith hanfodol yma.

"Rydyn ni wedi gwneud amddiffyn yr amgylchedd cyfagos yn flaenoriaeth ganolog a blaenllaw trwy gydol y broses o gynllunio'r gwaith £1.8 miliwn i uwchraddio'r system dŵr gwastraff yn Mhenperlleni.

"Rydyn ni wedi bod yn cydweithio'n agos â'r awdurdod lleol ac wedi comisiynu ecolegwyr i sicrhau bod ein gwaith yn effeithio cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd lleol a'i fod yn cydymffurfio â chanllawiau amgylcheddol llym.

“Cynhaliwyd achlysur galw heibio yn y gymuned leol hefyd, a ddenodd nifer dda o drigolion a busnesau lleol. Bu ein tîm wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a gododd am y gwaith. Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth, ac anogwn unrhyw un sydd ag ymholiadau am y gwaith i gysylltu â ni .”