enviroment

Dŵr Cymru yn annog cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn ddoeth


11 Gorffennaf 2018

  • Cymru yn wynebu tymereddau uwch nag erioed o’r blaen
  • Dŵr Cymru yn atgyweirio gollyngiadau ac yn cynyddu’r cyflenwad
  • Annog cwsmeriaid i roi gwybod am ollyngiadau, defnyddio dŵr yn ddoeth a pheidio â gwastraffu dŵr

Mae Dŵr Cymru wedi datgelu sut y mae’n cadw ei rwydwaith yn llifo ar ôl y mis Mehefin poethaf ers dechrau cofnodi tymereddau ym 1910.

Mae’r cwmni yn gwneud mwy o ymdrech i ddod o hyd i ollyngiadau ar ei rwydwaith a’u hatgyweirio, ac mae 450 o bobl yn gweithio ar draws ein rhwydwaith saith diwrnod yr wythnos i ddod o hyd i ollyngiadau a’u hatgyweirio.

Mae hefyd yn rhoi tua 1 biliwn litr o ddŵr (cynnydd o 20%) yn y rhwydwaith bob dydd – sy’n cyfateb i lond 400 o byllau nofio maint Olympaidd – i wneud yn siŵr y cedwir cyflenwad cwsmeriaid yn arferol yn ystod y tywydd poeth. Mae’r cwmni wedi gwneud yn siŵr bod staff ar gael i weithio yn ei 62 o weithfeydd trin dŵr bob awr o’r dydd a’r nos. Mae’n monitro ei rwydwaith, ac mae hefyd 35 o danceri dŵr allan yn y cymunedau yn dod â mwy o ddŵr i’r rhwydwaith.

Mae’r cyfnod hwn o dywydd poeth – mis Mehefin yw’r poethaf ers dechrau cofnodi tymereddau yn 1910 – yn golygu bod mwy o alw am ddŵr, a’r defnydd o ddŵr yng Nghymru yn cyrraedd mwy na biliwn litr y dydd.

Er nad oedd pryderon ynghylch lefelau’r dŵr ar hyn o bryd ar draws ei rwydwaith, dywedodd y cwmni dielw ei fod yn erfyn ar ei gwsmeriaid i helpu i wneud yn siŵr bod mwy o ddŵr yn cael ei arbed at ddibenion ail-hydradu hollbwysig yn ystod y tywydd poeth.

Er ei fod yn atgoffa cwsmeriaid i ddefnyddio cymaint ag sydd ei angen arnynt, dylent ddefnyddio dŵr yn ddoeth, ac wrth i’r cyfnod sych barhau, dylid osgoi unrhyw wastraffu.

Mae’r cwmni yn gwasanaethu mwy na thair miliwn o gwsmeriaid dros y rhan fwyaf o Gymru, Swydd Henffordd, a rhannau o Lannau Dyfrdwy ac mae’n gweithredu rhwydwaith o ryw 87 o gronfeydd dŵr, yn ogystal â 27,500 cilometr o bibellau dŵr - digon i gyrraedd Awstralia ac yn ôl.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Peter Perry: "Mae lefelau’r dŵr yn ein cronfeydd fel y gellid eu disgwyl ar yr adeg hon o’r flwyddyn ac o dan yr amodau presennol, ac nid oes gennym unrhyw bryderon am lefelau’r dŵr yn yr ardal yr ydym yn ei gwasanaethu.”

“Ond mae’r cwsmeriaid yn amlwg yn defnyddio llawer mwy o ddŵr yn y tywydd poeth hwn ac felly mae angen inni wneud yn siŵr bod modd inni gael y dŵr at ein cwsmeriaid. Mae ein staff yn gweithio ddydd a nos i helpu i ddod o hyd i ollyngiadau a’u hatgyweirio ac maent yn defnyddio tanceri i roi mwy o ddŵr yn y rhwydwaith.

“Rydym bob amser yn gofyn i’r cwsmeriaid weithio gyda ni. Os ydynt yn sylwi ar ollyngiad, dylent roi gwybod i ni a dylent ystyried faint o ddŵr y maent yn ei ddefnyddio. Er ein bod yn annog pawb i fod yn ddiogel ac yfed dŵr pan fo’r tywydd yn boeth, dylem bob amser geisio osgoi gwastraffu dŵr fel y gallwn reoli’r galw am ddŵr i bawb.

“Gall cwsmeriaid gael cyngor ar sut i ddefnyddio dŵr yn effeithlon yn y cartref ac yn yr ardd ar ein gwefan dwrcymru.com”

Gall cwsmeriaid helpu hefyd drwy roi gwybod inni am unrhyw ollyngiadau cyn gynted ag y byddant yn sylwi arnynt un ai drwy’r wefan neu drwy ffonio ein llinell gollyngiadau ar 0800 052 0130. Mae ein timau allan o gwmpas y lle yn gweithio bob awr o’r dydd a’r nos yn atgyweirio gollyngiadau ar y rhwydwaith i wneud yn siŵr bod cymaint o ddŵr â phosibl ar gael i gwsmeriaid ei ddefnyddio.