Cyhoeddwyd ‘Cynorthwyo ein cwsmeriaid - gweithio wrth galon ein cymuned' yn ddiweddar, sef ein strategaeth i gynorthwyo cwsmeriaid dan amodau bregus.
Yn rhan o hyn, gwahoddwyd ein partneriaid o amrywiaeth o sefydliadau a sectorau i gyfrannu at weithdy, gan rannu arferion gorau a syniadau newydd, er mwyn amlinellu'r pethau y dylem fod yn eu gwneud i roi'r strategaeth hon ar waith i wella ein cymorth ar gyfer cwsmeriaid sydd dan amodau bregus.
Darllenwch ein Hadroddiad ar y Gweithdy i Lansio Strategaeth i Gwsmeriaid dan Amodau Bregus i gael rhagor o wybodaeth am yr adborth a gawsom ar y diwrnod, a'r camau nesaf y byddwn yn eu cymryd i roi'r strategaeth hon ar waith.