Finance

Canllaw i’n Bil Anfesuredig Newydd


21 Awst 2018

Mae’r swm rydym yn ei godi’n wahanol i bob eiddo.

Os oes gennych gyfrif anfesuredig, syn golygu nad oes mesurydd dŵr yn eich eiddo, mae’n bosibl y cewch fil yn ein fformat newydd – o Awst 2018 ymlaen.
Mae trosolwg o fformat ein bil newydd isod, er, os byddai’n well gennych lawrlwytho canllaw ar ffurf pdf, gallwch wneud hynny yma.

Ailddylunio ein Biliau

Rydyn ni wedi gwrando ar ein cwsmeriaid, ac wedi canfod nad ydych bob amser yn deall y bil a gewch gennym. Rydyn ni wedi ail-ddylunio ein biliau i’w gwneud nhw’n haws i chi eu deall. Mae ein bil ar ei newydd wedd wedi cael ei ddylunio gyda chymorth ein cwsmeriaid trwy ein cymuned ‘Dweud eich Dweud’ ar-lein.

 

Rydyn ni’n gwerthfawrogi’ch adborth

Os ydych chi wedi cael copi o’n bil newydd, byddai’n dda gennym glywed eich barn; gallwch roi adborth i ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod. Gallwch ymuno â’n cymuned ar-lein hefyd i ddweud eich dweud am ein prosiectau at y dyfodol.