Systemau Rheoli Integredig


Iechyd a Diogelwch

Does dim yn fwy pwysig i ni nag iechyd a diogelwch ein cyflogeion, ein partneriaid, ein contractwyr, ein cwsmeriaid, ein cymdogion a’r cyhoedd yr ydym ni’n effeithio arnyn nhw drwy ein gwaith. Rydym ni’n credu bod gan bawb sy’n gweithio ar ein rhan hawl sylfaenol i ddychwelyd adref yn iach ac yn ddiogel ar ddiwedd pob dydd. Mae unrhyw beth llai na hyn yn annerbyniol.


Amgylchedd ac Ansawdd

Mae Dŵr Cymru hefyd yn cydnabod y gall ei weithrediadau o ddydd i ddydd effeithio ar yr amgylchedd mewn nifer o ffyrdd a bydd yn ymdrechu i sicrhau bod effeithiau niweidiol gweithredoedd o’r fath cyn lleied â phosibl pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol. Mae gan Dŵr Cymru weledigaeth hefyd i lwyddo trwy gydweithrediad agos â chwsmeriaid, cyflenwyr ac isgontractwyr, i ddeall eu hanghenion ac ynghyd â neilltuo adnoddau priodol, bydd yn pennu amcanion amgylcheddol ac ansawdd ar gyfer gwelliant parhaus.


Rheoli Asedau

Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i weithredu yn effeithiol ei holl asedau trwy eu cylchoedd oes cyfan ac mae’n gweithredu cynlluniau rheoli asedau sy’n gyfannol, yn systematig, yn seiliedig ar risg ac yn gynaliadwy a hefyd wedi’u hintegreiddio â’r gofynion a’r ymrwymiadau a wneir wrth wella yn barhaus ein safonau Iechyd a Diogelwch, Ansawdd ac Amgylcheddol.


Datganiad Polisi Diogelwch Gwybodaeth

Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu’r wybodaeth a’r data sy’n perthyn i’n cwsmeriaid, ein cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae ein Polisi Diogelwch Gwybodaeth a Systemau i’w weld isod.


Datganiad Polisi Cymhwysedd Technegol

Mae’r System Rheoli Cymhwysedd yn dangos ymrwymiad Dŵr Cymru i sicrhau bod gan ein cydweithwyr y wybodaeth, y sgiliau a’r cymhwysedd technegol gofynnol i fodloni gofynion rheoleiddiol a chydymffurfio â’r hawlen amgylcheddol.

Lawrlwythiadau sydd ar gael

Datganiad Polisi ar Reoli Asedau 2024-25

Lawrlwytho
60.1kB, PDF

Datganiad Polisi Amgylcheddol 2024-25

Lawrlwytho
59.9kB, PDF

Datganiad Polisi Iechyd Diogelwch a Lles 2024-25

Lawrlwytho
59.8kB, PDF

Datganiad Polisi ar Ddiogelu Gwybodaeth 2024-25

Lawrlwytho
61.9kB, PDF

Datganiad Polisi Ansawdd 2024-25

Lawrlwytho
59kB, PDF

Datganiad Polisi Cymhwysedd Technegol 2024-25

Lawrlwytho
41.4kB, PDF