Trap a Llandyfan
Rydyn ni’n buddsoddi dros £3 miliwn i wella’r rhwydwaith dŵr yn ardal Trap a Llandyfan. Bydd hyn yn ein helpu ni i barhau i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân ar gyfer ein cwsmeriaid yn yr ardal am ddegawdau i ddod.
Bydd y gwaith yn helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau ein cwsmeriaid ac yn lliniaru’r problemau o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel y mae rhai cwsmeriaid yn yr ardal yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Beth fydd natur y gwaith?
Mae rhai o’n pibellau sy’n darparu’r dŵr ar gyfer cawod a phaned boreol ein cwsmeriaid dros 100 mlwydd oed erbyn hyn. Dros amser, mae dyddodion naturiol yn gallu cronni’r tu fewn i’r pibellau gan arafu llif y dŵr. Er nad yw’r dyddodion hyn yn niweidiol, pob nawr ac yn y man mae angen i ni glirio’r pibellau er mwyn cadw’r dŵr yn llifo’n rhwydd.
Gyda rhai rhannau o’r rhwydwaith yn dod i ddiwedd eu hoes weithredol, bydd ein buddsoddiad yn yr ardal hon yn ein gweld ni’n disodli 3.2km o bibellwaith i gyd.
Ymhle byddwn ni’n gweithio?
Bydd y gwaith yn dechrau yn gynnar ym mis Mehefin 2024 ac rydyn ni’n disgwyl ei gwblhau erbyn gwanwyn 2025.
Gallwch weld ble fyddwn ni’n gweithio isod.
Os bydd angen i ni weithio’r tu allan i’ch eiddo chi, byddwn ni’n sicr o gysylltu â chi’n uniongyrchol yn nes at yr amser, a byddwn ni’n diweddaru adran ‘Yn Eich Ardal’ ein gwefan er mwyn rhannu unrhyw gynlluniau penodol i reoli traffig.
Bydd gennym safle gwaith ac uned les yn y cae gyferbyn â Fferm Tir Goetre yn ystod y gwaith.
Fy nghyflenwad dŵr
Ni ddylai’r rhan fwyaf o’r gwaith darfu ar eich cyflenwad. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith yma, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr). Os oes angen i ni wneud hyn, byddwn ni’n rhoi digon o rybudd i chi.
Cwestiynau cyffredin
Ni ddylai’r rhan fwyaf o’r gwaith darfu ar eich cyflenwad. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith yma, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr). Os oes angen i ni wneud hyn, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi trwy anfon neges destun ar y diwrnod.
Fel y gallwch dderbyn y negeseuon hyn, sicrhewch fod gennym rif ffôn poced neu gartref cyfredol ar gyfer eich aelwyd. Gallwch ddilysu hyn a diweddaru eich manylion trwy gysylltu â ni trwy Sgwrs Fyw ar ein gwefan neu trwy ffonio ein rhif cyswllt 24 awr ar 0800 052 0130.
Byddwn ni’n hysbysu cwsmeriaid bregus a’r rhai ag anghenion ychwanegol sydd wedi cofrestru ar gyfer ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, am hyn, ac yn darparu dŵr potel ar eu cyfer os oes angen. Os oes angen dŵr potel arnoch chi yn ystod y gwaith yma, gallwn drefnu hynny ar eich cyfer.
Mae hyn yn ddigon normal. Mae dŵr afliw yn annhebygol o fod yn niweidiol i iechyd pobl, ond fydden ni ddim yn disgwyl i neb ei yfed os oes golwg ych-a-fi arno. Dylai’r dŵr glirio’n weddol gyflym ar ôl ychydig funudau o fflysio’r tapiau, ond mae’n gallu cymryd hyd at 45 munud o redeg y tap iddo glirio.
Os ydych chi’n poeni ac nad yw’r afliwiad wedi clirio, cysylltwch â ni.
Osgowch olchi dillad nes bod y dŵr wedi ei gysylltu eto ac yn rhedeg yn glir. Os ydych chi wedi golchi dillad a bod y dŵr afliw wedi staenio’r golch, dylech olchi’r llwyth eto ar ôl i’r dŵr glirio.
Yn anffodus, fel cwmni nid-er-elw, ni allwn dalu costau a dynnir wrth ddefnyddio llwybr y gwyriad.
Yn Eich Ardal
Mynnwch y newyddion diweddaraf
I gadw llygad am gyfleoedd eraill i siarad â’r tîm, ac am fanylion traffig a chau ffyrdd, ewch i Yn Eich Ardal a chwilio dan eich cod post.