Rhymni Bargoed
Rydym yn buddsoddi bron £10 miliwn i wella ansawdd y dŵr yng Nghwm Rhymni er mwyn sicrhau ein bod yn darparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân i'n cwsmeriaid yn yr ardal am ddegawdau eto.
Pam rydym ni’n gwneud hyn?
Bydd y gwaith yn helpu i sicrhau cyflenwadau di-dor i’n cwsmeriaid yn yr ardal fel nad yw toriadau yn y cyflenwad a gwasgedd dŵr isel yn gymaint o broblem i rai ohonynt.
Ein bwriad yw buddsoddi tua £10 miliwn yn y rhwydwaith dŵr yn yr ardal a hoffem roi gwybod i chi beth mae hyn yn ei olygu i chi.
Beth mae’r gwaith hwn yn ei gynnwys?
Mae rhai o’n pibellau sy’n cario dŵr i gwsmeriaid ar gyfer eu cawod a’u paned yn y bore dros gant oed. Dros amser, gall dyddodion naturiol grynhoi y tu mewn i’r pibellau gan arafu llif y dŵr. Er nad yw’r dyddodion hyn yn niweidiol, mae angen i ni glirio’r pibellau bob hyn a hyn fel bod y dŵr yn rhedeg yn rhwydd.
Ni fydd y gwaith yn effeithio ar y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid ac mae’n fwy na thebyg na fyddant hyd yn oed yn sylwi bod y gwaith yn cael ei wneud ond byddwn yn ysgrifennu at unrhyw gwsmeriaid y gallai’r gwaith effeithio arnynt gan roi'r holl wybodaeth y bydd arnynt ei angen.
Gan fod rhannau o’r rhwydwaith yn tynnu at ddiwedd eu hoes weithredol, bydd y buddsoddiad yn yr ardal yn sicrhau bod tuag 17km o brif bibellau dŵr naill ai’n cael eu newid neu y byddwn yn rhoi’r gorau i’w defnyddio. Mae hyn bron yr un hyd â 186 o gaeau pêl droed!
Ble gwneir y gwaith?
Gwneir y gwaith rhwng Rhymni a Bargoed, ac yn ardal Deri. Dechreuodd ein gwaith yn Rhymni a Phontlotyn ym mis Mehefin 2020 a byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad â’r holl drigolion a busnesau tan ddiwedd y gwaith. Envolve Infrastructure fydd yn gwneud y gwaith ac, os bydd popeth yn mynd yn iawn, caiff ei gwblhau yn Haf 2023.
Ymhlith yr ardaloedd fydd yn elwa ar y buddsoddiad mae Rhymni, Pontlotyn, Tredegar Newydd a Deri.
Beth sydd nesaf?
Enwau’r Strydoedd: Teras Groes-faen i’r Ffordd Newydd, y Deri
Dyddiad dechrau: Ionawr 2023
Dyddiad cwblhau disgwyliedig: Haf 2023
Gwybodaeth Ychwanegol: Rydyn ni’n gosod pibell ddŵr newydd sbon trwy bibell ddŵr sy’n bodoli eisoes. Trwy ddefnyddio’r dull arloesol yma, bydd angen i ni weithio mewn darnau llai ar hyd y ffordd, a fydd yn tarfu’n llai ar ein cwsmeriaid a modurwyr.
Er diogelwch, byddwn ni’n defnyddio goleuadau traffig dros dro a fydd yn symud ar hyd llwybr y gwaith gyda ni. Byddwn ni’n creu cysylltiadau dŵr unigol newydd sbon â chartrefi ar hyd Teras Groes-faen a’r Ffordd Newydd. Tra bod hyn yn digwydd, bydd gennym bibell ddŵr dros dro ar ben y tir, sy’n golygu na ddylai’r gwaith darfu dim at y cyflenwad dŵr.
Byddwn ni’n sicr o roi digonedd o rybudd i’n cwsmeriaid os oes angen i ni weithio’r tu allan i’w cartrefi, a bydd ein contractwyr, Envolve Infrastructure, yn gweithio o amgylch cynlluniau’r cwsmeriaid lle bo modd, ac yn sicrhau bod modd iddynt fynd a dod i’w heiddo.
Y cynllun rheoli traffig
Rydyn ni’n treulio amser mawr yn cynllunio ein gwaith er mwyn sicrhau ei fod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned. Ond bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithio y tu allan i eiddo unigol, ac mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn i rai pobl beidio â pharcio yn ardal y gwaith am gyfnod. Os felly, byddwn ni’n sicr o roi gwybod i chi mewn da bryd. Gallwn eich sicrhau chi y byddwn ni’n cwblhau’r gwaith ar y ffyrdd cyn gynted ag y gallwn ni.
Y Gronfa Gymunedol
Mae'r Gronfa Gymunedol yn gyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal. Ers Mehefin 2020, rydyn ni wedi cyfrannu dros £5,000 at y banc bwyd lleol a dros £7,000 at grwpiau cymunedol yng Nghwm Rhymni. Mae hyn wedi helpu i gynnal gweithgareddau fel chwaraeon, cerddoriaeth ac offer celfyddydol, offer swyddfa, llogi ystafelloedd, a darparu adnoddau iechyd meddwl a lles. Mae rhywfaint o'r cyllid wedi mynd i feithrinfeydd, dosbarthiadau addysg i oedolion ac i grwpiau sy'n hyrwyddo cysylltiadau cymunedol hefyd.
Os ydych yn byw mewn ardal lle rydym ni’n gweithio – a’ch bod yn codi arian at brosiectau er budd y gymuned – gallech gael hyd at £1,000 gan Dŵr Cymru.
Y Gronfa Gymunedol
Os ydych yn byw mewn ardal lle rydym ni’n gweithio – a’ch bod yn codi arian at brosiectau er budd y gymuned – gallech gael hyd at £1,000 gan Dŵr Cymru.
I gael ragor o wybodaeth a chyflwyno caisAm gael rhagor o fanylion?
Os oes unrhyw gwestiynau gennych am y gwaith, croeso i chi gysylltu â ni yng Nghanolfan Gyswllt Cwsmeriaid Dŵr Cymru ar 0800 052 0130 a gofyn am Natasha Vaughan. Neu gallwch fynd i'r tudalennau yn eich ardal a chwilio o dan ‘Deri’
Dywedwch eich dweud.
Ein nod yw darparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol ar eich cyfer bob tro, ac rydyn ni glywed eich barn am ein gwaith y tro hwn. Os ydych am rannu eich adborth, ewch i: Adborth am Waith