Cwestiynau Cyffredin


A fydd ymyrraeth â'm dwr?

Ni ddylai fod unrhyw ymyrraeth â'ch cyflenwad dŵr dros yr amser yma. Ond oherwydd natur y gwaith yma, mae'n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr) o fewn yr wythnos nesaf. Byddwn ni'n anfon neges destun atoch ar y diwrnod pan rydyn ni’n bwriadu datgysylltu’r cyflenwad i roi gwybod i chi ein bod ni'n bwriadu gwneud hynny.

Cofiwch sicrhau fod gennym rif ffôn symudol neu linell dir cyfredol ar gyfer eich aelwyd fel y gallwch dderbyn y neges destun yma.

Byddwn ni'n hysbysu cwsmeriaid bregus a'r rhai ag anghenion ychwanegol sydd wedi cofrestru ar gyfer Gwasanaethau Blaenoriaeth am ein bwriad i ddatgysylltu dros dro, a byddwn yn darparu dŵr potel ar eu cyfer os oes angen. Os oes angen dŵr potel arnoch wrth i ni gyflawni'r gwaith, yna gallwn ni drefnu hynny i chi.

Mae fy dŵr yn gymylog neu'n dywyllach na'r arfer

Mae dŵr afliw yn annhebygol o niweidio eich iechyd ond ni fyddem ni’n disgwyl i unrhyw un ei yfed os yw’n edrych yn annymunol. Fel arfer, mae’n clirio’n weddol gyflym ar ôl rhedeg y tap am ychydig funudau, ond weithiau bydd angen rhedeg y tap am ryw 45 munud cyn iddo glirio.

Os ydych chi’n poeni ac nad yw lliw y dŵr wedi clirio, cysylltwch â ni.

Ddylwn i olchi fy nillad os gwn fod fy dwr yn diffodd?

Dylech osgoi golchi dillad nes bod y dŵr yn glir ond os ydych chi wedi gwneud hyn ac mae’r dŵr afliw wedi staenio eich dillad, golchwch nhw eto pan fydd y cyflenwad wedi clirio. Os yw’r dillad wedi’u staenio ar ôl eu golchi eto, cadwch y dillad sydd wedi’u staenio a chysylltwch â ni.