Uwchraddiadau i Waith Trin Dŵr Gwastraff Trefynwy
Rydyn ni’n buddsoddi mewn ac o amgylch Trefynwy i uwchraddio a gwella’r asedau trin dwr gwastraff yn eich ardal.
Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatau inni drin a gwaredu dŵr gwastraff yn fwy effeithiol o'n gweithfeydd trin cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd lleol.
Fel cwmni, rydyn ni’n dibynnu ar yr amgylchedd wrth ddarparu ein gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff hanfodol. Rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldebau dros ddiogelu’r amgylchedd o ddifrif, ac yn buddsoddi tua £1 miliwn y dydd i wella a chynnal ein rhwydweithiau.
Ond rydyn ni’n gwybod bod ein cwsmeriaid am i ni wneud rhagor, yn arbennig i helpu i amddiffyn ansawdd dŵr ein hafonydd, fel afon Gwy. Dyna pam ein bod ni’n cynnig buddsoddi tua er mwyn gwella sut mae’r Gorlif Storm Cyfunol (CSO) yn eich ardal leol yn gweithredu.
Beth yw’r broblem?
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n monitro ansawdd ein prif afonydd. Mae yna bryder am ansawdd dŵr afonol mewn rhannau o afon Gwy am nad ydynt yn cyflawni’r hyn a elwir yn statws ecolegol ‘da’. Mae hynny’n golygu bod yna ormod o gemegolion fel ‘ffosfforws’ yn yr afon, sy’n gallu achosi gordyfiant o algâu sy’n gallu effeithio ar faint o ocsigen sydd ar gael yn y dŵr a niweidio bywyd gwyllt.
Beth sy’n achosi hyn?
Mae yna nifer o ffactorau sy’n gallu cynyddu lefel y ffosffadau. Mae hyn yn cynnwys sut rydyn ni’n trin dŵr gwastraff cyn ei ddychwelyd i’r amgylchedd. Mae ein gwaith modelu ar afon Gwy, er enghraifft, yn dangos bod ein hasedau yn gyfrifol am rhwng 25% a 33% o’r ffosffadau yn y prif gyrff dŵr, a’r CSOs sydd i gyfrif am gwta 2% o hyn. Mae’r gweddill yn cael ei achosi gan ffactorau eraill fel dŵr ffo o dir amaeth a baw anifeiliaid, a thanciau septig preifat. Fodd bynnag, rydyn ni’n deall bod hyn yn fater pwysig i’n cwsmeriaid, ac rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i wneud beth y gallwn ni i leihau ein heffaith ar afon Gwy.
Gwaith at safle Trin Dŵr Gwastraff Trefynwy
Bydd y gwaith yma’n digwydd mewn sawl cam. Bydd y cam cyntaf yn cynnwys gwaith sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod digon o gapasiti yn ein carthffosydd i ddelio â’r gwastraff sy’n dod i mewn iddynt, ac yn ei drin cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd lleol. Ar ôl cwblhau hyn, byddwn ni’n cyflawni gwaith ychwanegol a fydd yn helpu i gyfoethogi’r broses drin eto fyth trwy dynnu mwy o’r ffosfforws, a bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i hybu ansawdd y dŵr yn yr afon leol.
Rydyn ni’n bwriadu dechrau’r gwaith yma tua diwedd yr hydref a byddwn ni’n rhannu rhagor o fanylion ar ein gwefan yn dwrcymru.com/YnEichArdal yn nes ar yr amser.
Maniffesto afonydd
Rydym yn cynllunio i wella perfformiad ein hadnoddau drwy anelu ein buddsoddiad at y rhai sydd â'r effaith fwyaf ar yr amgylchedd, boed hynny'n orlawnder trwch dros ben na fyddai'n hoffi neu'n rhy llawer o fosfforws yn gadael ein gwaith triniaeth. Dyna pam rydym wedi lansio ein Maniffesto dros Afonydd yng Nghymru sy'n amlinellu ein cynlluniau i helpu i wella ansawdd yr afonydd. Mae hyn yn cynnwys:
- Buddsoddi £1.5 biliwn yn ystod y degawd nesaf hyd at 2025 yn ein system ddŵr gwastraff.
- Buddsoddi'n sylweddol i wella golwernoedd storm, gyda £25m yn cael ei fuddsoddi rhwng 2020-2025, a chynlluniau pellach o £420m wedi eu cynllunio o 2025 i 2030.
- Buddsoddi £60m ychwanegol yn benodol i leihau ffosffor mewn pum afon Ardaloedd Arbennig Cadwraeth (SAC) sy'n methu yn ein hardal weithredu.
- Cyflawni rhaglen gynhwysfawr o uwchraddiadau i'n gweithfeydd triniaeth a fydd yn cael gwared ar 90% o'n rhyddhad ffosffor erbyn 2030.
- Sut mae ein model gweithredu busnes wedi caniatáu i ni ddod â thros £100m o fuddsoddiad ychwanegol yn ein seilwaith ddŵr gwastraff, gan gyflymu buddsoddiad a fydd â manteision uniongyrchol i wella afonydd yng Nghymru erbyn 2025
Beth mae'r gwaith hwn yn ei olygu?
Gyda rhai rhannau o’r rhwydwaith yn dod at ddiwedd eu hoes weithredol, bydd y gwaith yn golygu adnewyddu tua 14.6km o bibellau dŵr, glanhau 10.3km a dadgomisiynu 3.3km. Bydd dros 5,600 o gartrefi a busnesau yn Nhrefynwy, Redwern, Y Felin Newydd, Abergwenffrwd, Llanfihangel Troddi, Tryleg, Cwmcarfan a’r cyffiniau.
Byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o ddulliau traddodiadol ac arloesol i’n galluogi i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl, gan wneud ein gorau glas i achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosibl.
Trefynwy
Rhwng canol Medi 2023 a mis Tachwedd 2024, byddwn ni’n gweithio mewn amryw o leoliadau yn Nhrefynwy ei hun. Yn ystod y misoedd cyntaf, bydd gennym dri thîm yn gweithio mewn gwahanol leoliadau. Bydd y rhain yn cynnwys Wyebridge Street, Dixton Road (wrth ddynesu at yr A40) a Drybridge Street (wrth gyffordd Cinderhill Street).
Bydd ein gwaith yn Abergwenffrwd, Tryleg, Redwern, Llanfihangel Troddi a Chwmcarfan yn dechrau’n ddiweddarach, a byddwn ni’n ysgrifennu atoch yn nes at yr amser i roi gwybod i chi pryd y bydd y gwaith yn yr ardaloedd yn hyn dechrau.
Ein contractwyr
Byddwn ni’n gweithio gyda Morrison Water Services a’u cadwyn gyflenwi i’n helpu ni i gyflawni’r gwaith. Byddan nhw’n gweithio dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7.30am a 5.30pm, ond bydd angen iddynt weithio’r tu hwnt i’r oriau hyn ac ar benwythnosau ar adegau er mwyn cwblhau’r gwaith yn gyflym.
Ble fydd ein timau’n gweithio rhwng Ionawr a Mawrth 2024
Tai bach cyhoeddus Monnow Street tuag at gyffordd Monnow Street/Nailers Lane
O 8 Ionawr ymlaen, bydd tîm yn dechrau gwaith y tu allan i dai bach cyhoeddus Monnow Street gan weithio i gyfeiriad Tafarn y Robin Hood. Bydd goleuadau traffig yn gweithredu yn ystod y rhan yma o’r gwaith a ddylai gael ei gwblhau ddiwedd Ionawr.
Pan fyddwn ni wedi cwblhau ein gwaith yn y fan yma, byddwn ni’n dechrau gosod y brif bibell ddŵr newydd sbon ar Monnow Street, gan weithio i gyfeiriad y gyffordd â Nailer’s Lane. Dylai hyn gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Byddwn ni’n gweithio gam wrth gam trwy ganol y dref, gan gadw mor agos ag y gallwn ni at ymyl y cyrb. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn ni’n cyfyngu ar barcio yng nghanol y dref, ond bydd yna fannau parcio penodol i gerbydau cludo nwyddau ac at ddibenion mynediad i’r anabl. Bydd y llwybrau cerdded yn agored trwy gydol y gwaith.
Bydd system un ffordd yn gweithredu ar gyfer modurwyr, a fydd yn golygu eu bod ond yn gallu teithio i lawr St John’s Street/Monnow Street tuag at y tai bach cyhoeddus ar Monnow Street. Bydd yna arwyddion clir i gyfeirio modurwyr yn ystod y cyfnod hwn.
Gallwn eich sicrhau chi y bydd pob busnes ar agor fel arfer, a byddwn ni’n parhau i gydweithio’n agos â’r Siambr Fasnach a busnesau lleol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar fusnes yn y dref.
Almshouse Street/Glendower Street
O Ionawr hyd ganol Mawrth, bydd ail dîm yn gweithio o gyffordd Wyebridge Street/Almshouse Street i gyffordd Glendower Street/Agincourt Square. Bydd goleuadau traffig aml-ffordd yn gweithredu a bydd y rhain yn symud gyda’r gwaith.
Oherwydd lleoliad ein gwaith, bydd yna gyfyngiadau ar barcio yn yr ardal hon. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r awdurdod lleol, ac mae’r bobl hynny sydd â hawlen barcio ac y bydd y gwaith yn effeithio arnynt wedi cael llythyr ar wahân am y trefniadau ar gyfer y cyfnod hwn.
Dixton Road
O wythnos gyntaf Ionawr ymlaen, bydd y tîm yn cyflawni darnau o waith ar hyd Dixton Road, gan weithio i gyfeiriad priffordd yr A40. Byddwn ni’n cyflawni’r gwaith yma dros nos am ryw bythefnos. Bydd y tîm ar y safle o 8pm ac yn gweithio tan 6am y bore canlynol. Mae’r awdurdod lleol wedi cydsynio i hyn er mwyn osgoi tarfu ar fodurwyr yn ystod y dydd.
Ddiwedd Ionawr, bydd y tîm yn symud i Monnow Keep, a darperir rhagor o fanylion ar gyfer pobl yn yr ardal honno yn nes at yr amser.
Diweddariadau pellach ar ein gwaith
Wrth i ni gwblhau ein gwaith yn yr ardaloedd uchod, byddwn ni’n eich diweddaru chi ar y camau nesaf. Gallwch gael y newyddion diweddaraf am hynt y gwaith ar ein gwefan, ewch i dwrcymru.com/YnEichArdal.
Y Felin Newydd ac Abergwenffrwd
Ddiwedd Tachwedd, fe ddechreuon ni ein rhaglen waith 10 mis yn y Felin Newydd. Bydd y gwaith yma’n symud i Abergwenffrwd yn y flwyddyn newydd, ac rydyn ni wedi ysgrifennu at drigolion yr ardal honno i roi gwybod iddynt sut y bydd hynny’n effeithio arnyn nhw.
O fis Ionawr ymlaen, bydd y ffordd ar gau trwy Abergwenffrwd a darperir mynediad i drigolion a chwsmeriaid busnesau a bwytai lleol yn unig. Gallwch gael rhagor i fanylion am hyn ar ein gwefan yn dwrcymru.com/YnEichArdal.
Llanfihangel Troddi
Gan weithio o wythnos gyntaf Ionawr tan ddiwedd y mis, bydd ein contractwyr yn gweithio rhwng Fferm y Capel a Bwthyn Cae-Jack, Llanfihangel Troddi. Byddan nhw’n gosod y bibell ddŵr newydd sbon tra bod y ffordd ar gau. Bydd gwyriad clir yn gweithredu a bydd modd i drigolion fynd a dod.
Wedyn bydd yr un tîm yn parhau â’u gwaith ar Heol Craig–y-Dorth rhwng Bwthyn Cae-Jack a The Lodge. Byddwn ni’n parhau i weithio â’r ffordd ar gau ac yn gweithio gyda’r trigolion i ganiatáu mynediad. Rydyn ni’n disgwyl cwblhau’r gwaith yma tua diwedd Chwefror. Byddwn ni’n darparu diweddariadau pellach ar ôl cwblhau’r rhan yma o’r gwaith.
Eich cyflenwad dŵr yn ystod y gwaith
Ni ddylai’r rhan fwyaf o’r gwaith effeithio dim ar eich cyflenwad dŵr. Ond mae’n bosibl y bydd eich dŵr yn edrych ychydig bach yn fwy tywyll nag arfer ar adegau. Mae hyn yn eithaf normal wrth i ni gyflawni gwaith fel hyn, a dylai glirio wrth redeg y tap dŵr oer.
Os oes adegau pan fydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr, byddwn ni’n cysylltu â chi ymlaen llaw trwy anfon neges destun. Fel y gallwch dderbyn y negeseuon hyn, sicrhewch fod gennym rif ffôn poced neu ffôn cartref ar eich cyfer.
Gallwch ddilysu hyn a diweddaru eich manylion cyswllt trwy gysylltu â ni trwy Sgwrs Fyw (trwy’r botwm Angen Cymorth) ar ein gwefan sef neu trwy ffonio ein rhif 24 awr ar 0800 052 0130.
Y cynllun rheoli traffig
Bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithio yn y ffordd, a bryd hynny byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o oleuadau dwy ffordd a phedair ffordd i gadw’r traffig yn llifo. Ond bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithio yn union y tu allan i eiddo unigol, ac mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn i rai pobl beidio â pharcio yn ardal y gwaith. Os felly, byddwn ni’n sicr o roi gwybod i chi mewn da bryd. Gallwn eich sicrhau chi y byddwn ni’n cwblhau’r gwaith ar y ffordd cyn gynted ag y gallwn ni.
Wrth i’n gwaith ddatblygu ar draws y dref, byddwn ni’n diweddaru adran Yn Eich Ardal ein gwefan - dwrcymru.com/YnEichArdal - a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol gan rannu’r manylion diweddaraf fel eich bod chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl.