Uwchraddio’r pibellau dŵr rhwng Llys-wen a Clifford


Rydyn ni’n buddsoddi £20 miliwn yn y rhwydwaith dŵr rhwng Llys-wen a Clifford. Bydd hyn yn ein helpu ni i barhau i ddarparu cyflenwad dibynadwy o ddŵr diogel a glân yn yr ardal am ddegawdau i ddod.

Pam ydyn ni’n gwneud hyn?

Mae rhai o’r pibellau sy’n helpu ein cwsmeriaid i fwynhau cawod a phaned o de bob bore dros 100 oed erbyn hyn. Dros amser, mae dyddodion naturiol yn gallu cronni yn y pibellau gan arafu llif y dŵr. Er nad yw’r dyddodion hyn yn niweidiol, mae angen i ni lanhau’r pibellau bob nawr ac yn y man er mwyn cadw’r dŵr yn llifo’n rhydd.

Rydyn ni’n buddsoddi £20 miliwn i helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau ein cwsmeriaid ac i liniaru’r problemau sy’n effeithio ar rai cwsmeriaid yn yr ardal o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel.

Beth mae’r gwaith yn ei olygu?

Gyda rhai rhannau o’r rhwydwaith yn dod at ddiwedd eu hoes weithredol, bydd y gwaith yn cynnwys adnewyddu tua 21km, a glanhau tua 3km o bibellau dŵr rhwng Llys-wen a Clifford. Yn ogystal â gwella ansawdd y dŵr yfed ar gyfer y cymunedau o dan sylw, bydd hyn yn helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau ac yn lliniaru problemau ar y rhwydwaith dŵr yn y dyfodol hefyd.

Byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o ddulliau traddodiadol ac arloesol i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl, ac fe wnawn ein gorau glas i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned.

Ni fydd y gwaith yn effeithio ar y rhan fwyaf o’r cwsmeriaid, ac mae’n debygol na fyddant yn sylwi bod y gwaith yn cael ei wneud hyd yn oed, ond byddwn ni’n ysgrifennu at unrhyw gwsmeriaid y gallai’r gwaith effeithio’n uniongyrchol arnynt i rannu’r holl wybodaeth angenrheidiol.

Ein contractwyr

Byddwn ni’n gweithio gyda Morrison Water Services a’u cadwyn gyflenwi i’n helpu ni i gyflawni’r gwaith. Byddan nhw’n gweithio dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7.30am a 5.30pm, ond bydd yna adegau pan fydd angen iddynt weithio’r tu hwnt i’r oriau hyn ac ar benwythnosau er mwyn cwblhau’r gwaith yn gyflym.

Ble fydd ein timau’n gweithio rhwng Ionawr a Mawrth 2024

Eich cyflenwad dŵr yn ystod y gwaith

Ni ddylai’r rhan fwyaf o’r gwaith effeithio dim ar eich cyflenwad dŵr. Ond mae’n bosibl y bydd eich dŵr yn edrych ychydig bach yn fwy tywyll nag arfer ar adegau. Mae hyn yn eithaf normal wrth i ni gyflawni gwaith fel hyn, a dylai glirio wrth redeg y tap dŵr oer.

Os oes adegau pan fydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr, byddwn ni’n cysylltu â chi ymlaen llaw trwy anfon neges destun. Fel y gallwch dderbyn y negeseuon hyn, sicrhewch fod gennym rif ffôn poced neu ffôn cartref ar eich cyfer.

Gallwch ddilysu hyn a diweddaru eich manylion cyswllt trwy gysylltu â ni trwy Sgwrs Fyw (trwy’r botwm Angen Cymorth) ar ein gwefan, neu trwy ffonio ein rhif 24 awr ar 0800 052 0130.

Y cynllun rheoli traffig

Bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithio yn y ffordd, a bryd hynny byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o oleuadau dwy ffordd a phedair ffordd i gadw’r traffig yn llifo. Ond bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithio yn union y tu allan i eiddo unigol, ac mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn i rai pobl beidio â pharcio yn ardal y gwaith. Os felly, byddwn ni’n sicr o roi gwybod i chi mewn da bryd. Gallwn eich sicrhau chi y byddwn ni’n cwblhau’r gwaith ar y ffordd cyn gynted ag y gallwn ni.

Wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen, byddwn ni’n diweddaru adran Yn Eich Ardal ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol gan rannu’r manylion diweddaraf fel eich bod chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl.