Llyn Anafon


Saif Llyn Anafon ym Mharc Cenedlaethol Eryri tua 500m uwch lefel y môr ym mynyddoeodd y Carneddau.

Ble mae Llyn Anafon

Adeiladwyd argae ar draws y llyn ym 1931 er mwyn darparu cyflenwadau dŵr ar gyfer Abergwyngregyn, Llanfairfechan a'r ardaloedd cyfagos.

Ond daeth hynny i ben yn 2002. Mae'r argae wedi cyrraedd pwynt lle byddai angen buddsoddiad sylweddol ynddo er mwyn iddo fodloni safonau diogelwch argaeau modern. O ganlyniad, rydyn ni wrthi’n cyflawni gwaith i droi'r gronfa ddŵr nôl yn llyn naturiol.

Pan fyddwn wedi cwblhau ein gwaith, byddwn ni'n dychwelyd y llyn i'w gyflwr naturiol fel yr oedd cyn iddo gael ei droi'n gronfa ddŵr yn y 1930au. Mae'r cynllun wedi cael ei werthuso'n annibynnol a bydd yn parhau i gynnal cynefinoedd a rhywogaethau o bwys ecolegol, ac felly bydd yn parhau i fod yn nodwedd ecolegol a diwylliannol allweddol yn yr ardal. Bydd gwaith monitro annibynnol yn parhau yn ystod y gwaith ac ar ôl iddo gael ei gwblhau hefyd.

Beth rydyn ni'n ei wneud ar y safle

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi rhoi caniatâd i ni wneud gwaith i adfer Llyn Anafon i'w gyflwr gwreiddiol - gan ddychwelyd y dŵr i'w lefel naturiol, sydd 1.4 m yn is na'i lefel gyfredol. Mae’r gwaith yma eisoes ar droed.

Erbyn hyn mae'r tŵr yn gweithredu fel gorlif i'r gronfa ac mae'n cynnwys cyfres o logiau atal a fydd yn caniatáu i lefel y dŵr gael ei ostwng yn raddol bach nôl i lefel y llyn naturiol (tua 30cm ar y tro)

Caiff y gwaith yma ei gyflawni dros gyfnod o rhwng pump a deng mlynedd, fel y gellir cynnal y bywyd gwyllt lleol a'r planhigion yn Llyn Anafon.

Beth yw'r cam nesaf?

Caiff lefel y dŵr yn Llyn Anafon ei gostwng yn raddol bach.

Yn dilyn trafodaethau â'r gymuned leol, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi rhoi caniatâd i ni godi ffens dros dro i amgylchynu hanner y gronfa. Mae hyn er mwyn atal da byw, Merlod y Carneddau a'r cyhoedd rhag mynd i'r tir a fydd yn agored i'r elfennau ar ôl i ni ostwng lefel y dŵr.

Codir y ffens dros dro ddiwedd gwanwyn 2022. Ar ôl codi'r ffens, caiff y dŵr ei ostwng tua 30cm yn rhagor.

Caiff y ffens ei thynnu pan fydd yr ardal wedi sychu, a'i chodi eto cyn y cyfnod gostwng nesaf.

Pan fydd y dŵr yn y llyn wedi cyrraedd y lefel angenrheidiol, caiff rhan o'r argae ei gostwng i lefel gwely gwreiddiol y nant, a chrëir cored newydd er mwyn caniatáu i'r dŵr o'r llyn lifo i'r nant.

Yr Amgylchedd

CNC sydd wedi awdurdodi'r gwaith yma ac maent yn chwarae rhan wrth fonitro unrhyw effeithiau hefyd. Cynhelir cyfarfodydd chwe misol gyda CNC i adolygu data o'r samplau Ansawdd Dŵr a gesglir yn fisol. Rydyn ni'n adrodd nôl ar y planhigion macroffyt hefyd, ac yn tynnu ffotograffau bob mis o bwynt sefydlog er mwyn dangos sut mae'r macroffytau dŵr bas yn addasu i'r newidiadau.

Mae cynlluniau lliniaru ecolegol ar waith os oes eu hangen, ac mae poblogaeth fechan o blanhigion prin Llyn Anafon wedi cael eu trawsleoli i'r Gerddi Botaneg Cenedlaethol yn Sir Gaerfyrddin lle maent yn llewyrchu. Fel mesur ychwanegol i ddigolledu am ostwng lefelau'r dŵr yn Llyn Anafon, caiff rhai o'r planhigion dyfrol prin eu symud i Lyn Brân.

Bydd llyn yn Anafon o hyd ar ôl cwblhau'r gwaith, a chedwir 60% o'r arwynebedd. Proses o ailnaturioli'r ardal i fel yr oedd hi'n edrych cyn creu'r gronfa yw hon. Yn ogystal, trwy gysylltu'r llyn â'r cwrs dŵr i lawr y llif, bydd poblogaethau eraill o frithyll yn gallu cyrraedd y llyn a chynyddu ei amrywiaeth genetig.

Gwneir gwelliannau pellach i'r trac sy'n arwain at Lyn Anafon hefyd.