Llechryd
Ein nod yn Dŵr Cymru yw darparu cyflenwad o ddŵr yfed o'r radd flaenaf i chi bob tro y byddwch yn agor y tap. I sicrhau ein bod yn parhau i wneud hyn, rydym yn buddsoddi £8.7 miliwn i uwchraddio'r pibellau dŵr yn eich cymuned chi.
Beth mae'r gwaith hwn yn ei gynnwys?
Bydd ein gwaith yn cynnwys ailosod dros 40 KM o bibellau dŵr yn mharth dŵr yfed Llechryd, gan gynnwys ardaloedd fel Star, Tegryn a Castell Newydd Emlyn. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn helpu i adeiladu gwytnwch yn y rhwydwaith dŵr yn yr ardal.
Ble fydd y gwaith yn digwydd
Mae gwaith ar y gweill yn yr ardal hon ar hyn o bryd. Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i Yn Eich Ardal.
Llwybr pibell newydd
Mae'r ffordd isod ar gau o ddydd Llun, 30ain Fehefin 2025 tan ddydd Mawrth, 14eg Hydref 2025.
Mae'r ffordd isod ar gau o ddydd Llun, 18fed Awst 2025 tan ddydd Llun, 22ain Fedi 2025.
Mae gwaith ar y gweill yn yr ardal hon ar hyn o bryd. Am y diweddaraf, ewch i yn eich ardal.
Llwybr pibell Newydd
Mae gwaith ar y gweill yn yr ardal hon ar hyn o bryd. Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i yn eich ardal.
Llwybr pibell Newydd
Mae'r ffordd isod ar gau o ddydd Mercher, 3ydd Fedi 2025 tan ddydd Gwener, 10fed Hydref 2025.
Os oes angen i ni weithio y tu allan i'ch eiddo, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol yn agosach at yr amser a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau rheoli traffig penodol yn yr adran 'Yn Eich Ardal' ar ein gwefan.
Ein contractwyr
Byddwn yn gweithio gydag Youngs Brothers a'u cadwyn gyflenwi i'n helpu i wneud y gwaith. Byddant yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7:30am a 5:30pm, ond weithiau efallai y bydd angen iddynt weithio y tu allan i'r oriau hyn a dros y penwythnos i wneud y gwaith.
Eich cyflenwad dŵr yn ystod y gwaith
Trwy gydol y rhan fwyaf o'r gwaith ni ddylai fod unrhyw darfu ar eich cyflenwad dŵr. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd eich dŵr yn ymddangos ychydig yn dywyllach nag arfer. Mae hyn yn eithaf arferol pan fyddwn yn gwneud gwaith fel hyn a bydd yn clirio os byddwch yn rhedeg tap dŵr oer y gegin. Os oes adegau pan fydd angen i ni ddiffodd ein dŵr am gyfnod byr, byddwn yn cysylltu â chi trwy neges destun i roi digon o rybudd.
Rheoli traffig
Mae rhai o'r pibellau dŵr rydyn ni'n eu disodli yn y ffordd, sy'n golygu y gallai fod goleuadau traffig neu ffyrdd ar gau dros dro ar waith yn ystod ein gwaith. Byddwn yn gwneud y gwaith yn y ffyrdd cyn gynted â phosibl.
Helpwch ni i roi'n ôl
Rydym yn gwybod bod ein gwaith weithiau yn gallu tarfu ar y cymunedau rydyn ni'n gweithio ynddynt ac rydym am helpu ein cwsmeriaid a grwpiau lleol i wneud gwahaniaeth yn yr ardaloedd maen nhw'n byw. Os yw'ch grŵp cymunedol, ysgol neu sefydliad dielw yn cynnal digwyddiad neu y byddent yn gwerthfawrogi rhywfaint o gymorth gwirfoddoli, rhowch wybod i ni a byddwn yn gweld beth allwn ni ei wneud i roi help llaw. Cysylltwch â ni drwy e-bostio community@dwrcymru.com.