Llan-faes


Rydyn ni’n cyflawni gwaith i wella’r ffordd y mae’r rhwydwaith dŵr gwastraff yn gweithredu ym mhentref Llan-faes er mwyn helpu i leihau’r risg o lifogydd carthion yn yr ardal. Ar y dudalen hon mae ychydig o wybodaeth am y gwaith, a sut y gallai effeithio arnoch chi.

Beth fyddwn ni’n ei wneud?

Ffeindiodd ein gwaith ymchwilio fod gormod o ddŵr yn llifo i’n rhwydwaith dŵr gwastraff, a bod hynny’n gosod mwy o bwysau ar ein system. Mae hyn yn gyffredin lle mae lefel y dŵr daear yn uchel, ac mae’n gallu cynyddu’r risg o lifogydd. Dyna pam fod angen i ni gyflawni gwaith i selio ac ail-leinio rhannau o’r rhwydwaith er mwyn helpu i atal dŵr daear rhag ymdreiddio i’n rhwydwaith.

Er mwyn gwneud hyn, byddwn ni’n defnyddio dulliau traddodiadol i leinio’r garthffos yn ogystal â thechneg arloesol a fydd yn ein helpu ni i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned ehangach.

Ble a phryd?

Dechreuodd ein gwaith dydd Llun, 19 Medi, ond oherwydd problemau annisgwyl ac oedi gyda’r deunyddiau angenrheidiol bu angen gohirio ein gwaith am gyfnod byr. Byddwn ni’n ailgydio yn y gwaith o ddydd Llun, 31 Hydref ymlaen. Cyhyd ag y bo’r gwaith yn mynd yn ôl y disgwyl, byddwn wedi ei gwblhau erbyn dechrau Rhagfyr.

Byddwn ni’n gweithio mewn amryw o leoliadau o fewn y pentref, yn y briffordd ac mewn ambell i eiddo unigol. Os oes angen i ni ddod i’ch eiddo chi, bydd ein tîm ystadau’n cysylltu â chi’n uniongyrchol.

Rheoli traffig

Bydd angen i ni gau rhai rhannau o’r ffordd fel y gallwn gyrchu rhai o’r tyllau archwilio’n ddiogel. Mae ychydig o wybodaeth am ble a phryd isod. Amserlenni bras yw’r rhain, a gallent newid, ond byddwn ni’n diweddaru’r manylion ar dudalennau Yn Eich Ardal ein gwefan yn nes at yr amser i roi gwybod i chi beth y gallwch ei ddisgwyl.

Gallwn eich sicrhau chi y bydd modd mynd a dod i fusnesau ac eiddo yn ystod y gwaith.

Ein contractwyr

Byddwn ni’n gweithio gyda Morgan Sindall i gyflawni’r gwaith, felly mae’n bosibl y gwelwch eu cerbydau yn eich ardal. Byddan nhw’n gweithio dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen iddynt weithio’r tu hwnt i’r oriau hyn ar adegau er mwyn cyflawni’r gwaith yn gyflym ac yn ddiogel.

Eich gwasanaethau gwastraff

Mae rhai o’r pibellau y byddwn ni’n gweithio arnynt yn cysylltu ag eiddo unigol, felly bydd angen i ni ofyn i rai trigolion beidio â defnyddio eu gwasanaethau gwastraff am gyfnod byr – bydd hynny’n cynnwys fflysio’r tŷ bach neu olchi unrhyw beth i lawr y sinc. Byddwn ni’n ysgrifennu at y trigolion o dan sylw eto’n nes at yr amser ac yn galw i’w gweld ymlaen llaw hefyd.

Gwybodaeth bellach

Os hoffech gael rhagor o fanylion am ein gwaith, byddwn ni yn Neuadd y Pentref yn Sant Catwg brynhawn Mawrth, 13 Medi. Gallwch alw heibio unrhyw bryd rhwng 3pm a 7pm a bydd ein tîm wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y gwaith.

Nid yw ein gwaith yn gysylltiedig ag unrhyw waith cynlluniedig arall gan yr awdurdod lleol yn yr ardal. Weithiau mae ffactorau’n codi sydd y tu hwnt i’n rheolaeth sy’n gallu achosi oedi neu newid cwmpas y gwaith, ond fe wnawn ein gorau i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned bob tro.

Yn Eich Ardal

Gallwch ddarllen y newyddion am ein gwaith adeiladu o ddydd i ddydd yr adran Yn Eich Ardal ein gwefan. Cliciwch yma am fanylion.
Yn Eich Ardal