Cwm Elan


Rydyn ni'n buddsoddi er mwyn sicrhau y gall ymwelwyr barhau i fwynhau Cwm Elan am ddegawdau i ddod!

Ceunant y Diafol

Mae'r Ceunant wedi bod ar gau yn sgil cwymp oherwydd y perygl y gallai creigiau pellach ddisgyn. Bu angen cau'r llwybr ceffylau er mwyn amddiffyn ymwelwyr ac anifeiliaid. Cytunwyd gyda Llywodraeth Cymru y bydd y llwybr yn aros ar gau nes ein bod ni wedi cwblhau'r gwaith angenrheidiol a fydd yn caniatáu i bobl basio trwy'r Ceunant yn ddiogel eto.

Rhyddhawyd cyllid i ni gyflawni'r gwaith yma, ac rydyn ni wrthi nawr yn cyflawni'r gwaith ymchwilio. Bydd hyn yn caniatáu i ni ddylunio'r ateb cost-effeithiol orau ar gyfer y Ceunant. Bydd y gwaith ymchwilio a chynllunio'n cymryd rhyw flwyddyn i'w gwblhau am ei fod yn brosiect cymhleth. Ein bwriad ar hyn o bryd yw dechrau'r gwaith yn hydref 2022.

Craig Goch

Mae gweithredu ein hargaeau yn ôl y safonau uchaf o ran diogelwch yn flaenoriaeth i ni, ac er mwyn sicrhau bod Craig Goch yn parhau i weithredu'n ddiogel, mae angen i ni gyflawni ychydig o waith cynnal a chadw hanfodol. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar y pibellau a'r falfiau sy’n rhan o'r argae.

Er mwyn ein galluogi ni i gyflawni ein prif waith ar y pibellau a'r falfiau sy'n rhan o'r argae, mae angen creu trac mynediad dros dro trwy'r goedwig wrth ymyl orllewinol gorlifan argae Craig Goch.

Bydd hyn yn cynnwys dymchwel nifer fechan o goed er mwyn caniatáu mynediad diogel i'n peiriannau a'n hoffer. Rydyn ni wedi penodi ecolegydd profiadol sy'n gymwys ym maes coedyddiaeth i fonitro'r gwaith yn barhaus. Bydd ail ran y gwaith yn cynnwys clirio'r gwaddodion o bibell a falf Craig Goch. Bydd hynny'n digwydd yng ngwanwyn 2022, a bydd hyn yn caniatáu i ni ddechrau prif ran y gwaith uwchraddio ym Mehefin 2022.

Yn Eich Ardal

Newyddion lleol

I glywed am gyfleoedd i siarad â’r tîm, yn ogystal â manylion ffyrdd sydd ar gau a gwybodaeth am draffig, ewch i’r adran Yn Eich Ardal a chwliwch dan eich cod post.

Manylion pellach