Glynebwy a Bryn–mawr


Rydyn ni’n buddsoddi dros £1 miliwn yn y rhwydwaith dŵr yng Nglynebwy a Bryn-mawr. Bydd hyn yn ein helpu ni i barhau i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân ar gyfer ein cwsmeriaid yn yr ardal am ddegawdau i ddod.

Pam ydyn ni’n gwneud hyn?

Mae rhai o’n pibellau sy’n darparu’r dŵr ar gyfer cawod a phaned foreol ein cwsmeriaid dros 100 mlwydd oed erbyn hyn. Dros amser, mae dyddodion naturiol yn gallu cronni’r tu fewn i’r pibellau gan arafu llif y dŵr. Er nad yw’r dyddodion hyn yn niweidiol, pob nawr ac yn y man mae angen i ni glirio’r pibellau er mwyn cadw’r dŵr yn llifo’n rhwydd.

Rydyn ni’n buddsoddi dros £1 miliwn i helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau ein cwsmeriaid a lliniaru’r problemau o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel sy’n effeithio ar rai cwsmeriaid ar hyn o bryd.

Beth ydyn ni’n ei wneud?

Uwchraddio’r rhwydwaith dŵr

Rydyn ni’n uwchraddio dros 9km o bibellau dŵr glân yng Nglynebwy a Bryn-mawr. Bydd ein gwaith yn ein gweld ni’n disodli 0.95km, yn glanhau 7.78km ac yn dadgomisiynu 0.51km o bibellau dŵr. Yn ogystal â helpu i wella ansawdd y dŵr yfed ar gyfer y cymunedau hynny, bydd yn helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau, ac yn lliniaru’r problemau o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel sy’n effeithio ar rai cwsmeriaid yn yr ardal ar hyn o bryd.

Byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o ddulliau traddodiadol ac arloesol fel y gallwn gwblhau’r gwaith cyn gynted ag y gallwn ni wrth wneud ein gorau glas i darfu cyn lleied â phosibl arnoch lle bo modd.

Mae’r gwaith yma’n dechrau yn Awst 2024 a chaiff ei gwblhau erbyn Chwefror 2025. Byddwn ni’n cyflawni’r gwaith yma gam wrth gam, felly mae’n bosibl y gwelwch ein timau’n gweithio mewn gwahanol fannau yn ystod y cyfnod hwn. Yn ystod y misoedd cyntaf, byddwn ni’n dechrau gyda dau dîm yn gweithio gam wrth gam ar hyd Fitzroy Street, Hill Crescent, Hill Street a King Street. Wedyn bydd y timau’n symud ymlaen i Aneurin Place, Dumfries Place, Greenland Road, Factory Road, a Beaufort Street rhwng Awst a Thachwedd.

Ein contractwyr

Byddwn ni’n gweithio gyda Morrison Water Services a’u cadwyn gyflenwi i’n helpu ni i gyflawni’r gwaith. Byddan nhw’n gweithio dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7:30am a 5:30pm, ond mae’n bosibl y bydd angen iddynt weithio’r tu hwnt i’r oriau hyn ac ar benwythnosau er mwyn cwblhau’r gwaith yn gyflym.

Eich dŵr

Ni ddylai’r rhan fwyaf o’r gwaith darfu dim ar eich cyflenwad. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith yma, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr). Os oes angen i ni wneud hyn, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi trwy anfon neges destun ar y diwrnod.

Y cynllun rheoli traffig

Bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithio yn y ffordd, a byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o oleuadau dwy, tair a phedair ffordd er mwyn cadw’r traffig yn symud. Mae’n bosibl y bydd yna adegau pan fyddwn ni’n gweithio’n union y tu allan i eiddo hefyd, a bydd angen i ni ofyn i rai pobl beidio â pharcio yng nghyffiniau’r gwaith am gyfnod. Os felly, byddwn ni’n sicr o roi gwybod i chi mewn da bryd. Gallwn eich sicrhau chi y byddwn ni’n cwblhau’r gwaith ar y ffyrdd cyn gynted ag y gallwn ni.