Cwestiynau Cyffredin
Am glywed rhagor? Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin.
Rydyn ni’n cyflawni’r gwaith yma ar ran datblygiad tai Plasdŵr, a’i nod yw helpu i reoli’r cynnydd yn y llif o garthffosiaeth rydym yn ei ddisgwyl wrth i’r datblygiad barhau. Rydyn ni’n cydweithio’n agos â’r awdurdod lleol a’r datblygwr er mwyn sicrhau bod gan rwydwaith carthffosiaeth Caerdydd y capasiti i allu delio â’r cynnydd yn y llif, ac er mwyn lleihau’r risg o ddiffygion ar y rhwydwaith ar gyfer y gymuned ehangach.
Mae ein gwaith yn cynnwys cysylltu’r bibell garthffosiaeth sy’n rhedeg o Danescourt i bwynt cyswllt yr ochr draw i afon Taf.
Trwy gydweithio’n agos â’n dylunwyr a’r awdurdod lleol, cytunwyd taw’r ateb gorau i reoli’r llif ychwanegol fyddai adeiladu gorsaf bwmpio ym Mharc Hailey y bydd y bibell garthffosiaeth yn cysylltu â hi. Cyflwynwyd cais cynllunio ar gyfer yr orsaf bwmpio yma ym mis Hydref 2021 a rhoddwyd caniatâd ym mis Medi 2022.
Yn rhan o’n gwaith, rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos â’r awdurdod lleol a’r datblygwr er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti ar rwydwaith carthffosiaeth Caerdydd i allu delio â’r cynnydd yn y llif a ddisgwylir wrth i’r datblygiad barhau ac er mwyn lleihau’r risg o ddiffygion ar y rhwydwaith ar gyfer y gymuned ehangach. Rydyn ni wedi canfod bod digon o gapasiti ar y rhwydwaith carthffosiaeth yn Ystum Taf i ni drosglwyddo rhywfaint o’r llif i’r rhwydwaith yna, a chaiff ei gludo ymlaen wedyn i gael ei drin yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd.
Yn rhan o’r broses yma, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau y gallwn glustnodi’r ateb gorau i ddarparu ar gyfer y safle, heb niweidio’r amgylchedd lleol na’r gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer cwsmeriaid yn yr ardal.
Caiff yr holl lif arall ei fwydo i’r rhwydwaith a’i gludo ymlaen i Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Rhostir Cog yn Ninas Powys.
Mae’r gwaith yn cael ei ariannu gan ddatblygwyr tai Plasdŵr.
Yn dilyn canlyniad yr Adolygiad Barnwrol, mae’r caniatâd perthnasol a gafwyd yn sgil y rhoi caniatâd cynllunio ym mis Medi 2022 yn dal i fod mewn grym. Yn ôl yr asesiad, ein hopsiwn dethol oedd y dewis mwyaf priodol, ac oherwydd cyfyngiadau ar amser a’n rhwymedigaeth gyfreithiol i gyflawni’r cynllun, ni fyddwn ni’n ystyried unrhyw opsiynau eraill.
O ran datblygiad Plasdŵr, bydd angen tynnu’r dŵr wyneb cyn i unrhyw lif o ddŵr budr gael ei ryddhau o safle’r datblygiad dros ben yr hyn y cafwyd cydsyniad i’w ryddhau i’r garthffos gyhoeddus yng nghyffiniau uniongyrchol y safle. Datblygwr y tai sy’n ariannu’r gwaith yma, ac fel rheol mae’n cynnwys dargyfeirio dŵr wyneb, neu unrhyw lif sy’n draenio oddi ar briffyrdd sy’n mynd i’r system garthffosiaeth gyhoeddus gyfunol ar hyn o bryd, i allfeydd amgen fel systemau dŵr wyneb pwrpasol, cyrsiau dŵr a chwlferti.
Rydyn ni wedi bod yn datblygu amrywiaeth o gynlluniau posibl i dynnu dŵr wyneb o fewn y dalgylch er mwyn gwrthbwyso’r llif dŵr budr newydd fydd yn dod o safle’r datblygiad. Mae nifer o’r cynlluniau hynny’n cael eu hasesu ar hyn o bryd er mwyn pwyso a mesur eu hyfywedd a’u dethol, a byddwn ni’n rhannu rhagor o fanylion pan fydd mwy o sicrwydd gennym pa gynlluniau y byddwn ni’n eu datblygu. Bydd y cynlluniau hyn yn gwella deilliannau amgylcheddol ac ni fyddant yn achosi unrhyw effeithiau amgylcheddol.
Gallwch gysylltu trwy ffonio 0800 085 3968 a gofyn am gael siarad â’n tîm cymunedol. Wedyn bydd ein canolfan gysylltu’n trefnu bod aelod o’n tîm cymunedol yn rhoi galwad nôl i chi.
Gallwch gyflwyno eich cwestiynau i ni trwy e-bost hefyd yn cymuned@dwrcymru.com.
Clos De Braose, Danescourt
Rydyn ni wedi edrych ar amryw o atebion i'n galluogi i reoli llif ychwanegol y garthffosiaeth o ddatblygiad Plasdŵr. Lle bo modd, a lle bo digon o gapasiti, bydd yr eiddo newydd yn cysylltu â'n carthffosydd cyfagos. Lle nad yw hynny’n hyfyw, yr unig opsiwn dilys yw trosglwyddo’r llif i un o’n prif garthffosydd cyfredol sy’n cludo’r llif i Waith Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd. Mae angen i ni groesi’r rheilffordd rhwng Caerdydd a Radyr ac afon Taf, ac rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos â Thrafnidiaeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn hynny o beth. Penderfynwyd taw’r unig leoliad addas i wneud hyn o ystyried y technegau Peirianneg Sifil y bydd angen eu defnyddio yw’r ardal y tu ôl i Glos De Braose.
Bydd angen llwybr parhaol arnom i gyrraedd ein hasedau yn achos digwyddiad gweithredol yn sgil y gwaith. Rydyn ni’n cynnig felly lleihau maint y trac cyfredol o bum metr o led i dri, yn ogystal â chyfoethogi’r ardal trwy blannu rhagor o goed a blodau gwyllt. Amlinellir ein cynnig yn hynny o beth ar y plan isod a byddwn ni’n dilyn y broses angenrheidiol i gael caniatâd cyn gwneud hyn.
Nac oes, ni fydd unrhyw orlif yn mynd i afon Taf yn sgil y gwaith yma.
Byddwn ni’n cyflawni ein gwaith y tu ôl i Glos De Braose wrth ymyl afon Taf a’r rheilffordd.
Sylwch y bydd bwlch yn y gwaith yn Glos De Braose, a disgwylir ei gwblhau'n derfynol tua mis Awst 2025. Disgwylir yr oedi hwn. i’r lefelau llif dŵr daear uwch na’r disgwyl ym Mharc Hailey, sydd wedi effeithio ar yr amserlen gyffredinol.
Parc Hailey
Yn sgil canlyniad yr Adolygiad Barnwrol, mae’r amodau a bennwyd wrth roi caniatâd cynllunio ym mis Medi 2022 yn dal i fod mewn grym.
Lle bo modd, a lle bo digon o gapasiti, bydd yr eiddo newydd yn cysylltu â'n carthffosydd cyfagos. Lle nad yw hynny’n hyfyw, yr unig opsiwn dilys yw trosglwyddo’r llif i un o’n prif garthffosydd cyfredol sy’n cludo’r llif i Waith Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd.
Fel arfer, mae ein rhwydwaith yn dibynnu ar ddisgyrchiant i’r gwastraff lifo o gartrefi a busnesau i’n carthffosydd. Ond mewn ardaloedd tir isel - fel Parc Hailey - mae angen i ni bwmpio’r dŵr gwastraff i fyny i’r rhwydwaith. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni adeiladu gorsaf bwmpio newydd a fydd yn pwmpio'r garthffosiaeth i fyny i'r rhwydwaith carthffosiaeth cyfredol er mwyn ei chludo ymlaen i Waith Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd.
Dewiswyd lleoliad yr orsaf bwmpio yn seiliedig ar leoliad ein pibellau carthffosiaeth a lle bo tir addas ar gael.
Fel arfer, mae ein rhwydwaith yn dibynnu ar ddisgyrchiant i’r gwastraff lifo o gartrefi a busnesau i’n carthffosydd. Ond mewn ardaloedd tir isel – fel Parc Hailey – mae angen pwmpio’r dŵr gwastraff i fyny i’r rhwydwaith. Er mwyn gwneud hyn, mae angen adeiladu gorsaf bwmpio newydd a fydd yn pwmpio'r garthffosiaeth i fyny i'r rhwydwaith carthffosiaeth cyfredol er mwyn ei chludo ymlaen i Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd.
Diystyrwyd yr opsiwn o adeiladu gweithfeydd trin newydd yn natblygiad Plasdŵr ar sail canllawiau polisi Cyfoeth Naturiol Cymru ar weithfeydd trin newydd, a rhyddhau i’r afonydd cysylltiedig yn sgil hynny. Mae hyn am y byddai angen trwydded ar weithfeydd trin carthffosiaeth newydd i ryddhau i’r cwrs dŵr. Manteisio i’r eithaf ar y capasiti sy’n bodoli eisoes yw’r opsiwn orau felly yn hytrach nag adeiladu gweithfeydd trin newydd, a fyddai’n golygu rhyddhau gwastraff i’r amgylchedd.
Bydd yr orsaf bwmpio 24 metr wrth 21 metr. Bydd y pympiau eu hunain 20 metr o dan y ddaear, a bydd gorchudd concrit ar lefel y ddaear.
Bydd yna giosg 3 metr o daldra, a bydd y ffens 2.4 metr o daldra’n amgylchynu’r safle. Bydd y ffens yn wyrdd ac fe'i dyluniwyd i geisio asio i dirwedd y safle. Cafodd ei dewis â golwg ar ddiogelu ein hasedau hefyd. Fodd bynnag, rydyn ni'n agored i ystyried atebion eraill er mwyn gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod y safle'n asio i’w amgylchedd.
Nid yw'r ddeddfwriaeth yn mynnu ein bod ni'n cyflwyno cais cynllunio ar gyfer yr asedau sydd o dan y ddaear.
Dyluniwyd yr orsaf bwmpio i fod mor fach â phosibl wrth ganiatáu i'n tîm gweithredol gyrchu'r asedau at ddibenion cynnal a chadw, gan greu amgylchedd diogel ar gyfer defnyddwyr y parc.
Dyluniwyd yr orsaf bwmpio yn ôl safonau cenedlaethol â'r nod o ddileu sŵn a drewdod. Lleolir ein pympiau 20 metr o dan y ddaear â siafft concrit caeedig. Yr unig ased ar ben y ddaear a allai achosi rhywfaint o sŵn yw'r generadur pŵer wrth gefn, a fydd yn gweithio yn achos toriad lleol yn y pŵer yn unig.
Cynigir gosod tri chiosg ar y safle; y cyntaf i reoli'r pympiau, yr ail i gynnwys y cyflenwad dŵr yfed, a'r trydydd i gynnwys generadur wrth gefn a fydd yn cadw'r orsaf bwmpio'n rhedeg mewn argyfwng yn achos toriad yn y pŵer.
Dewiswyd y deunydd plastig ar gyfer y ciosgau i ddiwallu'r gofynion dylunio, adeiladu a diogelwch a bennwyd yn y ddeddfwriaeth.
Cyflawnwyd Asesiad o Effeithiau Ecolegol yn rhan o'r cais cynllunio. Roedd yr asesiad hwn yn cynnwys nifer o gynigion lliniaru, a'r casgliad oedd ei bod hi'n annhebygol y caiff y datblygiad arfaethedig effaith negyddol ar y derbynyddion ecolegol ar y safle ac yn yr ardal leol.
Y farn yw y bydd bioamrywiaeth y safle’n cael ei chynnal ar lefel sy’n gyson â swyddogaethau'r ecosystem. Ni fydd yna golledion net o ran prysgwydd o fewn y safle am y caiff rhywogaethau o brysgwydd brodorol eu hailblannu yno. Byddwn ni’n cynyddu amrywiaeth a chyflwr y prysgwydd a'r cynefinoedd glaswelltir a gedwir ac a grëir o fewn y safle trwy blannu rhywogaethau brodorol cyfoethog, a chânt eu diogelu trwy reoli a monitro cynefinoedd yn y tymor hir.
Yn rhan o ddyluniad ein tirwedd, rydyn ni'n bwriadu adfer yr ardal gan ddefnyddio'r canlynol:
- Y glaswellt sydd yno eisoes yno â gweirglodd ecolegol gyfoethog
- Cymysgedd o brysgwydd brodorol
- Dôl blodau gwyllt
- Coed
Am fanylion cliciwch yma.
Defnyddir y trac mynediad cyfredol (i'r ystafelloedd newid) i gyrraedd lleoliad yr orsaf bwmpio oddi ar Ffordd Tŷ Mawr. Bydd yr holl draffig gwaith yn teithio trwy’r Eglwys Newydd, ar hyd Ffordd Felindre a Ffordd Tŷ Mawr.
Byddwn ni'n adeiladu'r ffordd fynediad o fewn safle'r orsaf bwmpio gan ddefnyddio strwythur grid sy'n caniatáu ar gyfer draenio ac i’r glaswellt dyfu trwy'r celloedd – bydd hyn yn helpu i leihau faint o goncrit sydd ei angen.
Bydd yr holl draffig gwaith yn teithio trwy’r Eglwys Newydd, ar hyd Ffordd Felindre a Ffordd Tŷ Mawr – fel y mae’r map isod yn ei ddangos.
Er mwyn sicrhau bod y llwybr yn glir, byddwn ni’n cyflawni ychydig o waith i docio unrhyw goed neu lystyfiant sy’n bargodi dros y ffordd.
Defnyddir y trac mynediad cyfredol i'r ystafelloedd newid ger Ffordd Tŷ Mawr i gyrraedd lleoliad yr orsaf bwmpio. Bydd mwy o draffig nag arfer yn teithio yn yr ardal yn ystod y gwaith adeiladu. Fodd bynnag, bydd hyn yn bennaf ar ddechrau ac ar ddiwedd y prosiect wrth i ni osod a datgomisiynu ein safle gwaith. Pan fydd y gwaith adeiladu wedi dechrau, bydd llai o gerbydau’n mynd a dod. Ni fydd cannoedd o gerbydau’n mynd a dod bob dydd.
Ar ôl cwblhau’r gwaith, nid ydym yn rhagweld y bydd angen newid y trefniadau diogelwch. Bydd cerbydau cynnal a chadw Dŵr Cymru'n ymweld â'r safle'n achlysurol, ond ni fydd hynny'n beth rheolaidd.
Ydyn, ar bob cam yn y broses gynllunio a dylunio, rydyn ni wedi bod yn cydweithio'n agos â chwmni Arup a'u hadnoddau ecolegol.
Yn rhan o'n gwaith, bydd angen i ni glirio rhywfaint o'r llystyfiant a'r coed er mwyn creu amgylchedd gwaith diogel. Caiff hyn ei gyflawni fis Chwefror, ac rydyn ni'n gweithio gydag ecolegydd a Chyngor Caerdydd i wneud hyn.
Rydyn ni wedi datblygu rhaglen ailblannu gynhwysfawr sy'n cynnig cyfle i hybu gwerth yr amgylchedd lleol. Caiff hyn ei gyflawni ar ôl i ni gwblhau'r gwaith. Am fanylion cliciwch yma.
Lle bo modd, caiff yr holl gynefinoedd a gedwir ac a grëir ar y safle eu cyfoethogi at ddibenion bioamrywiaeth. Bydd hyn yn cynnwys gosod pum blwch adar a phum blwch ystlumod i'r gogledd i'r safle, a gosod tŷ pryfed a thŷ draenogod o fewn y safle ger yr ardaloedd prysg.
Fe wnawn ni'n gorau glas i gadw'r llwybrau mynediad cyhoeddus yn agored wrth gyflawni ein gwaith – mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfleusterau fel yr ystafelloedd newid ger Heol Tŷ Mawr. Fodd bynnag, er diogelwch y cyhoedd ar led, fe fydd yna wyriadau'n gweithredu ar adegau yn ystod ein gwaith. Byddwn ni'n cyfleu ffurf y rhain yn nes at yr amser pan fyddwn ni'n barod i ddechrau adeiladu'r orsaf bwmpio.
Ystyriwyd effeithiau llifogydd, ac mae'r canlyniadau wedi llywio ein dewis o ddeunyddiau i leihau'r risg o lifogydd yn y parc o ganlyniad i'n gwaith. Mae rhagor o fanylion am hyn yn adran “5.6 Effeithiau Llifogydd“ y llythyr y cais cynllunio y gallwch ei ddarllen ar y porth cynllunio
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein tîm gweithrediadau wedi dod allan i’r ardal yn dilyn adroddiadau am lifogydd. Fodd bynnag, ar ôl ymchwilio i’r peth, ffeindiwyd taw draeniau neu gylïau wedi eu blocio sy’n achosi’r problemau lleol o ran llifogydd dŵr wyneb, a’r awdurdod lleol sy’n cynnal y rhain.
Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddraeniau sydd wedi eu blocio ar eiddo sydd dan ei reolaeth, a draeniau a gylïau ar y briffordd hefyd. Mae’r cyngor yn cynnig rhagor o fanylion am hyn ar ei wefan, ynghyd â manylion am sut i roi gwybod iddynt am broblemau o’r fath.
Er mwyn diolch i’r gymuned, byddwn ni’n lansio cronfa gymunedol o £10,000 yn Ionawr 2023. Bydd y grant ar gael i grwpiau neu sefydliadau cymunedol lleol fel ffordd o ddiolch iddynt am eu hamynedd wrth i ni gyflawni ein gwaith. Mae rhagor o fanylion yma ar y brif dudalen.
Rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos â’r holl randdeiliaid angenrheidiol er mwyn cadw’r parc yn lle diogel i bawb ei fwynhau wrth i ni gyflawni ein gwaith. Ar ôl adeiladu’r orsaf bwmpio newydd, ni fydd yn effeithio dim ar ddarpariaeth y caeau rygbi. Fodd bynnag, fe fydd y broses o gyflawni’r gwaith yn effeithio ar un o’r caeau. Mae pawb o dan sylw’n ymwybodol o’r effaith a chytunwyd ar drefniadau amgen yn ystod y gwaith.
Nid ydym yn gorfodi unrhyw reolau o ran cadw cŵn ar dennyn yn rhan o’n gwaith, ond gofynnwn yn garedig i bobl â chŵn gymryd gofal arbennig wrth gerdded heibio i’n hardal waith, a dilyn y cyfreithiau sydd mewn grym sy’n amddiffyn hawliau tramwy cyhoeddus.
Rydyn ni’n defnyddio CCTV i recordio a monitro’r ardal at ddibenion atal, lleihau a chanfod troseddau, er diogelwch ein personél a thrydydd partïon, ac er mwyn monitro rhag pobl yn tarfu ar ein hawliau i gyflawni gwaith yn yr ardal. Gellir cyflawni gwaith recordio pellach gan ddefnyddio offer fideo gwisgadwy, camerâu llaw neu offer tebyg os ceir bod unigolion yn eu rhoi eu hunain neu bobl eraill mewn perygl neu’n tarfu ar ein hawliau i gyflawni’r gwaith. Gellir rhannu’r delweddau a geir â’r Heddlu neu eu defnyddio mewn achos cyfreithiol.
Bydd cerbydau adeiladu mawr (e.e. cerbydau nwyddau trymion) yn teithio ar hyd Heol y Parc a Heol Felindre am taw dyma’r unig lwybr addas sy’n ddigon llydan i’r cerbydau hyn. Fodd bynnag, rydyn ni’n ymwybodol bod gwaith adeiladu arall ar droed yn yr Eglwys Newydd a bydd yna rywfaint o hyblygrwydd i gerbydau llai - fel faniau - deithio i’r safle o gyfeiriad Ystum Taf er mwyn lleihau’r effaith ar draffig yn yr Eglwys Newydd. Fe wnawn ein gorau glas i osgoi’r adegau teithio prysur lle bo modd.
Caiff yr ardaloedd a gaiff eu hadfer sydd o fewn ffiniau’r caniatâd cynllunio eu cynnal ar y cyd â Chyngor Caerdydd fel perchennog y tir.