Ardal Llanisien yng Nghaerdydd


Rydyn ni’n buddsoddi £7.8 miliwn mewn gwaith i wella’r rhwydwaith dŵr yn ardal Llanisien a’r cyffiniau yng Nghaerdydd. Bydd hyn yn ein helpu ni i barhau i ddarparu cyflenwad dibynadwy o ddŵr diogel a glân ar gyfer yr ardal am ddegawdau i ddod.

Bydd y gwaith yn helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau ein cwsmeriaid ac yn lliniaru’r problemau sy’n ymwneud â cholli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel sy’n taro rhai cwsmeriaid yn yr ardal.

Beth mae’r gwaith yn ei olygu?

Mae rhai o’r pibellau sy’n helpu ein cwsmeriaid i fwynhau eu cawod foreol a phaned o de dros 100 oed erbyn hyn. Dros amser, mae dyddodion naturiol yn gallu cronni yn y pibellau gan arafu llif y dŵr. Er nad yw’r dyddodion hyn yn niweidiol, bob nawr ac yn y man mae angen i ni lanhau’r pibellau er mwyn cadw’r dŵr yn llifo’n rhydd.

Gyda rhai rhannau o’r rhwydwaith yn dod at ddiwedd eu hoes weithredol, bydd y buddsoddiad yn yr ardal hon yn cynnwys adnewyddu tua 3.7km o bibellwaith.

Ymhle fydd y gwaith yn digwydd?

Bydd y gwaith yma’n cychwyn ddechrau Medi 2023 ac rydyn ni’n disgwyl ei gwblhau erbyn Hydref 2024.

Mae’r map isod yn dangos ble byddwn ni’n gweithio:

Os oes angen i ni weithio’r tu allan i’ch eiddo chi, byddwn ni’n sicr o gysylltu â chi’n uniongyrchol yn nes at yr amser, a byddwn ni’n diweddaru adran ‘Yn Eich Ardal’ ein gwefan gydag unrhyw gynlluniau penodol i reoli traffig.

Bydd gennym safle storio ac uned lles gyferbyn â Peppermint Park trwy gydol y gwaith yma.

Eich dŵr

Ni ddylai’r rhan fwyaf o’r gwaith effeithio ar eich cyflenwad dŵr. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu’ch cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr). Os oes angen i ni wneud hyn, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi gan roi digon o rybudd.

Cwestiynau Cyffredin

Dywedwch eich dweud

Ein nod yw darparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol ar eich cyfer, ac rydyn ni’n awyddus glywed a ydyn ni’n taro’r nod bob tro. I rannu eich adborth, ewch i yma.

Yn eich ardal

Mynnwch y newyddion diweddaraf

I gadw llygad am gyfleoedd eraill i siarad â’r tîm, a chael gwybodaeth am y ffyrdd sydd ar gau a gwybodaeth am draffig, ewch i yn eich ardal a chwiliwch dan eich cod post.

Darganfod mwy