Cynllun Gwaredu Plaladdwyr 2022 ESTYNEDIG
Dros yr ychydig flynyddoedd diweddaf, rydyn ni wedi cynnal Cynllun Gwaredu Plaladdwyr rhad ac am ddim, sy’n rhan o’n menter PestSmart. Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i ffermwyr, tyfwyr, ciperiaid, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill waredu unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr sy’n ddiangen, wedi darfod neu heb drwydded am ddim. Rydym yn falch o cynnig cynllun hwn unwaith eto yn 2022.
Mae’r Ffenetr Crofrestru ar gyfer y cynllun hon y nagor o 1af Mehefin i 19fed Awst
Trwy ddarparu'r cynllun gwaredu yma ar draws Cymru ac yn nalgylchoedd dŵr yfed Dŵr Cymru Welsh Water yn Lloegr, buom yn gweithio gyda rheolwyr tir i ddiogelu ansawdd dŵr crai cyn iddo gyrraedd ein gwaith trin dŵr.
Cynllun Gwaredu Plaladdwyr
Gallwch gofrestru ar-lein trwy glicio yma neu trwy roi galwad i ni ar 01443 452716.
- Cofrestru
Gofrestru ar-lein trwy glicio yma neu trwy roi galwad i ni ar 01443 452716.
- Cadarnhau
Mae'n bosibl y bydd angen i ni roi galwad i chi neu anfon neges e-bost nôl atoch i ofyn ambell i gwestiwn syml i gadarnhau a ydych chi'n gymwys ai peidio.
- Trosglwyddo eich manylion
Pan fyddwn wedi cadarnhau eich bod chi'n gymwys, byddwn ni'n trosglwyddo eich manylion i'n contractwr trydydd parti er mwyn sicrhau cyfrinachedd.
- Casglu
Bydd ein contractwr, Chemastic Ltd, yn gofyn i chi beth rydych chi am ei waredu, a faint sydd gennych, ac yn trefnu dyddiad casglu. Heb y wybodaeth hon, ni fydd Chemastic Ltd yn gallu bwrw ymlaen â'r gwaith casglu.
Byddan nhw'n rhoi gwybod i chi os oes angen unrhyw wybodaeth bellach gennych, ac yn ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi.
Contractwr gwaredu gwastraff peryglus yw Chemastic Ltd.
Noder:
RHAID cadw'r cemegolion yn eu cynwysyddion gwreiddiol fel ein bod ni'n gwybod beth ydyn nhw. Peidiwch â phoeni os yw hyn yn golygu bod gennych lawer o gynwysyddion heb lawer ynddyn nhw. Bydd ein contractwr yn eich cynghori ar y ffordd orau o storio eich cemegolion nes iddyn nhw gael eu casglu.
Gallwn gasglu uchafswm o 30 litr neu 30 cilogram bob tro. Gall ein contractwr gymryd rhagor, ond bydd tâl bach y cilogram/litr. Bydd angen cymeradwyo sylweddau ychwanegol gyda'r contractwr ymlaen llaw.
Mae cynllun gwaredu 2022 ar gael i'r bobl isod yn unig;
- Ffermwyr a Thyfwyr
- Ciperiaid
- Coedwigwyr
- Rheolwyr tir
Nid yw'r cynllun hwn ar gael i'r canlynol;
- Gwmnïau masnachol ym maes rheoli plâu
- Cwmnïau masnachol ym maes cynnal a chadw tiroedd
- Awdurdodau lleol
- Cwmnïau masnachol ym maes gwaredu gwastraff
Mae'r cynllun gwaredu ar gael ar draws Cymru gyfan a'n dalgylchoedd dŵr yfed yn Lloegr - mae'r map hwn yn dangos yr holl ardaloedd cymwys:. Os nad ydych yn siŵr a ydych mewn dalgylch dŵr yfed, ffoniwch ni ar 01443 452716 a byddwn yn hapus i helpu.
Byddwn ni'n derbyn:
- Chwistrellau Lladd Plâu
- Chwynladdwyr
- Pelenni Lladd Malwod
- Rodenticides
- Dip Defaid
Ni fyddwn ni'n derbyn:
- Olew
- Meddyginiaeth Filfeddygol
- Olew Gwastraff
- Elifiant Buarth Fferm
- Plaladdwyr a Gwastraff Cartref