Cynllun Gwaredu Plaladdwyr
Dros yr ychydig flynyddoedd diweddaf, rydyn ni wedi cynnal Cynllun Gwaredu Plaladdwyr rhad ac am ddim, sy’n rhan o’n menter PestSmart. Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i ffermwyr, tyfwyr, ciperiaid, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill waredu unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr sy’n ddiangen, wedi darfod neu heb drwydded am ddim.
Mae cofrestriadau ar gyfer y cynllun ar gau ar hyn o bryd
Trwy ddarparu'r cynllun gwaredu yma ar draws Cymru ac yn nalgylchoedd dŵr yfed Dŵr Cymru Welsh Water yn Lloegr, buom yn gweithio gyda rheolwyr tir i ddiogelu ansawdd dŵr crai cyn iddo gyrraedd ein gwaith trin dŵr.
Cynllun Gwaredu Plaladdwyr
Mae cofrestriadau ar gyfer y cynllun ar gau ar hyn o bryd.
- Cofrestru
Gofrestru ar-lein trwy glicio yma neu trwy roi galwad i ni ar 01443 452716.
- Cadarnhau
Mae'n bosibl y bydd angen i ni roi galwad i chi neu anfon neges e-bost nôl atoch i ofyn ambell i gwestiwn syml i gadarnhau a ydych chi'n gymwys ai peidio.
- Trosglwyddo eich manylion
Pan fyddwn wedi cadarnhau eich bod chi'n gymwys, byddwn ni'n trosglwyddo eich manylion i'n contractwr trydydd parti er mwyn sicrhau cyfrinachedd.
- Casglu
Bydd ein contractwr, Chemastic Ltd, yn gofyn i chi beth rydych chi am ei waredu, a faint sydd gennych, ac yn trefnu dyddiad casglu. Heb y wybodaeth hon, ni fydd Chemastic Ltd yn gallu bwrw ymlaen â'r gwaith casglu.
Byddan nhw'n rhoi gwybod i chi os oes angen unrhyw wybodaeth bellach gennych, ac yn ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi.
Contractwr gwaredu gwastraff peryglus yw Chemastic Ltd.
Noder:
RHAID cadw'r cemegolion yn eu cynwysyddion gwreiddiol fel ein bod ni'n gwybod beth ydyn nhw. Peidiwch â phoeni os yw hyn yn golygu bod gennych lawer o gynwysyddion heb lawer ynddyn nhw. Bydd ein contractwr yn eich cynghori ar y ffordd orau o storio eich cemegolion nes iddyn nhw gael eu casglu.
Gallwn gasglu uchafswm o 30 litr neu 30 cilogram bob tro. Gall ein contractwr gymryd rhagor, ond bydd tâl bach y cilogram/litr. Bydd angen cymeradwyo sylweddau ychwanegol gyda'r contractwr ymlaen llaw.
Mae cynllun gwaredu 2022 ar gael i'r bobl isod yn unig;
- Ffermwyr a Thyfwyr
- Ciperiaid
- Coedwigwyr
- Rheolwyr tir
Nid yw'r cynllun hwn ar gael i'r canlynol;
- Gwmnïau masnachol ym maes rheoli plâu
- Cwmnïau masnachol ym maes cynnal a chadw tiroedd
- Awdurdodau lleol
- Cwmnïau masnachol ym maes gwaredu gwastraff
Mae'r cynllun gwaredu ar gael ar draws Cymru gyfan a'n dalgylchoedd dŵr yfed yn Lloegr - mae'r map hwn yn dangos yr holl ardaloedd cymwys:. Os nad ydych yn siŵr a ydych mewn dalgylch dŵr yfed, ffoniwch ni ar 01443 452716 a byddwn yn hapus i helpu.
Byddwn ni'n derbyn:
- Chwistrellau Lladd Plâu
- Chwynladdwyr
- Pelenni Lladd Malwod
- Rodenticides
- Dip Defaid
Ni fyddwn ni'n derbyn:
- Olew
- Meddyginiaeth Filfeddygol
- Olew Gwastraff
- Elifiant Buarth Fferm
- Plaladdwyr a Gwastraff Cartref