Sut mae TarddLe yn gweithio?


Dysgwch fwy am weithgareddau TarddLe o ddydd i ddydd isod.

Grŵp Dŵr y Bannau

Gwerthuso

Risgiau

Deall yr heriau i ansawdd dŵr drwy fonitro, gwybodaeth a Chynlluniau Diogelwch Dŵr Yfed.

Gosod gorsaf dywydd ar fferm Richard Roderick: Y ffermwr Richard Roderick, John Owen ac Iwan Jones o Ganolfan Ymchwil Amaethyddol Coleg Gelli Aur a Nigel Elgar

Dalgylchoedd

Clyfar

Adeiladu 'Gefell Digidol' i ddangos sut mae tir a dŵr wedi'u cysylltu â’i gilydd er mwyn rhagfynegi a rhagweld risgiau’n well.

Cydweithwyr o Ddŵr Cymru a Grŵp Dŵr y Bannau yn paratoi ar gyfer achlysur codi arian ar fferm Richard Roderick i gefnogi Sioe Aberhonddu 2022

Ymchwil ac

Arloesi

Rydym yn gweithio gyda’r byd academaidd a sefydliadau ymchwil ar wyddoniaeth arloesol ac yn creu dulliau newydd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu atebion cadarn i wella ansawdd dŵr.

Grŵp Agrisgôp Regen Agriculture yn ymweld â fferm Keri Davies ger Crai i ddysgu rhagor am arloesi ar y fferm.

Partneriaethau ac

Ymgysylltu

Gweithio ar y cyd â phartneriaid a chymunedau i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelu dŵr yfed.

Gosod stribedi clustogi ar Fferm Penwern David Thomas.

Lliniaru a ffyrdd

newydd o weithio

Cyd-ddylunio atebion gyda rheolwyr tir a fydd yn darparu buddion niferus i bobl, dŵr a’r amgylchedd.

A oes gennych syniad am brosiect neu a oes angen rhagor o wybodaeth arnoch?

Hoffem glywed gan unrhyw ffermwr, perchennog tir neu reolwr tir sydd â syniad am ffyrdd newydd ac arloesol o weithio a fydd o fudd i’r amgylchedd dŵr yn ein dalgylchoedd. Mae gennym hefyd gyfoeth o wybodaeth a chyngor y gallwn eu rhannu â chi.

Mae ein tîm Dalgylch Dŵr Yfed allan yn rheolaidd yn ystod misoedd yr haf yn mynychu sioeau a digwyddiadau amaethyddol. Byddwch yn gallu siarad â ni yn y digwyddiadau hyn yn 2024, chwiliwch am faner TarddLe!

1. Ffyrdd y gallwch gysylltu â ni

Gyrrwch neges i ni drwy Gyfryngau Cymdeithasol

Gallwn helpu gydag ymholiadau o ddydd i ddydd trwy Neges Uniongyrchol ar Facebook a Twitter.

A oes gennych syniad yr hoffech ei rannu?

Os oes gennych syniad neu os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni yn: WaterSource@dwrcymru.com.