Mawndir a Dŵr


Rydyn ni’n gwybod bod beth sy’n digwydd ar y tir yn gallu effeithio ar ansawdd dŵr, felly mae’r ffordd y mae mawndiroedd yn cael eu rheoli’n gallu chwarae rhan bwysig wrth amddiffyn ansawdd dŵr yn y dalgylch.

Mawndiroedd, corsydd a mignedd sydd i gyfrif am tua 4% o’r tir yn ein dalgylchoedd. Maen nhw’n darparu amrywiaeth eang o fuddion, gan gynnwys darparu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, storio carbon, gwell ansawdd dŵr a dal mwy o ddŵr.

Mae mawndiroedd sy’n gweithio’n dda yn dirweddau hanfodol, maen nhw’n helpu i atal erydiad ac yn lleihau faint o sediment sy’n cael ei golli i lawr y llif. Maen nhw’n lleihau’r llif dros y tir hefyd gan gadw dŵr yn y dalgylch, ac yn gwella gwytnwch adeg newidiadau eithafol a thymhorol yn y tywydd.

Mewn blynyddoedd diweddar, mae mwy o bwyslais wedi bod ar adfer ac amddiffyn yr ecosystemau gwerthfawr yma. Rydyn ni am hybu adferiad a chynnal y mawndiroedd er mwyn gwireddu’r manteision o ran carbon, ansawdd dŵr yfed a’r amgylchedd ehangach.

Trwy ein gwaith gyda rheolwyr tir, rydyn ni wedi dysgu bod yr arferion canlynol yn gallu cael effaith gadarnhaol ar systemau mawndir ac amddiffyn ansawdd dŵr. Parhewch i ddarllen am fanylion.

Adfer Mawndiroedd

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o’n mawndiroedd mewn cyflwr gwael neu’n gwaethygu. Rydyn ni’n deall, trwy ddilyn y safonau gwirfoddol a bennwyd yng Nghod Mawndiroedd IUCN i adfer y cynefinoedd hyn, y byddan nhw’n cyflawni manteision lu ar yfer ein ffynonellau dŵr yfed a’r amgylchedd ehangach.

Dysgwch am adferiad mawndiroedd yng Nghymru yn y Rhaglen Gweithredu Cenedlaethol ar Fawndiroedd.


Astudiaeth Achos TarddLe: Partneriaeth Canolbarth y Bannau – cydweithio i adfer mawndiroedd

Rheoli Tanau Gwyllt

Rydyn ni’n gwybod bod llosgi’n gallu chwarae rôl hanfodol wrth reoli llystyfiant tir uchel, ond heb reolaeth, gall llosgi heb ei gynllunio effeithio ar bobl, dŵr a bywyd gwyllt.

Rhaid rheoli unrhyw losgi a’i gyflawni yn unol â chynllun rheoli tân cydweithredol. Rhaid ystyried mesurau lliniaru i amddiffyn cyrsiau dŵr ac ardaloedd sensitif eraill er mwyn osgoi effeithiau ehangach e.e. trefniadau pori, bylchau tân, lleiniau clustogi.

Gallwch gael rhagor o fanylion am y Siarter Tanau Gwyllt gan Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru.

Mynediad Cyfrifol at Dir

Mae gweithgareddau fel heicio, gwersylla, tanau/barbeciws a gyrru diarffordd yn gallu creu sbwriel, achosi tanau gwyll a tharfu ar y pridd a llystyfiant. Mae hyn yn gallu achosi mwy o erydiad yn y pridd a sediment sy’n effeithio ar gynefinoedd dyfrol a chyrsiau dŵr lleol.

Defnyddiwch lwybrau a safleoedd dynodedig at ddibenion heicio, gwersylla neu yrru diarffordd er mwyn lleihau erydiad y pridd. Gwaredwch wastraff a sbwriel mewn ffordd briodol. Peidiwch â chynnau tanau a barbeciws y tu hwnt i’r ardaloedd dynodedig. Dilynwch y Cod Cefn Gwlad bob tro.