Coedwigaeth a Dŵr
Rydyn ni’n gwybod bod gweithgareddau rheoli tir yn gallu effeithio ar ansawdd dŵr, felly mae cynllunio a rheoli gwaith coedwigaeth yn ofalus yn bwysig er mwyn helpu i amddiffyn ansawdd dŵr yn ein dalgylchoedd dŵr yfed.
Yn ein dalgylchoedd dŵr yfed, mae dros 94,000 hectar o’r tir wedi ei orchuddio gan goed, mae yn yn cynnwys coedwigaeth fasnachol a mathau eraill o goetiroedd.
Mae seilwaith o goed a choedwigaeth sy’n cael eu cynnal yn dda yn chwarae rhan hanfodol wrth leihau dŵr ffo ac erydiad y pridd er mwyn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd dŵr. Mae canopi da o goed yn lleihau llifogydd hefyd, a gall coridorau ar lannau afonydd wella cynefinoedd daearol a dyfrol.
Wrth i’r ymdrechion i ehangu gorchudd y coetiroedd i fodloni’r galw am bren yn y dyfodol a chyfoethogi gwasanaethau ecosystemau barhau, rydyn ni am helpu i hybu’r addasiadau rhwydd yna sy’n gallu cyflawni at ddibenion proffidioldeb pren, ansawdd dŵr yfed a’r amgylchedd ehangach.
Trwy ein gwaith gyda rheolwyr coedwigoedd, rydyn ni wedi dysgu bod yr arferion canlynol yn gallu cael effaith gadarnhaol ar wasanaethau coedwigaeth ac amddiffyn ansawdd dŵr. Parhewch i ddarllen am fanylion.
Arferion Coedwigaeth Cynaliadwy
Mae arferion gorau fel torri a thrin coed dethol, ailgoedwigo, a choedwigo, yn helpu i gynnal iechyd coedwigoedd a chydbwysedd ecosystemau. Mae coedwigaeth gynaliadwy yn sicrhau amddiffyniad hirdymor i adnoddau dŵr a gwytnwch cyffredinol ardaloedd dalgylch.
Trwy gynllunio a dilyn Safonau Coedwigoedd y DU ar gyfer Amddiffyn Dwr gellir lleihau effeithiau gwaith coedwigaeth ar ansawdd dŵr yn ein dalgylchoedd dŵr yfed yn sylweddol.
Astudiaeth Achos TarddLe: Dull coedwigaeth effaith isel Tal-y-bont (PES)
Cadwch y pridd ar y tir - pan fydd e wedi mynd, ni ddaw e beth yn ôl!
Pridd yw’r adnodd naturiol pwysicaf un. Bydd mabwysiadu’r arferion rheoli canlynol, ynghyd â chaniatáu pellteroedd gweithio digonol o gyrsiau dŵr yn helpu i gadw pridd ar y tir ac yn amddiffyn ansawdd dŵr:
- Peidiwch â chlirio’r coed, a defnyddiwch barthau clustogi ar hyd cyrsiau dŵr er mwyn helpu i leihau erydiad y pridd
- Gall trapiau llaid a gosod cwlferti helpu i leihau gwaddodion mewn cyrff dŵr, rhywbeth sy’n gallu effeithio ar ansawdd dŵr a chynefinoedd dyfrol
- Gall trapiau llaid a gosod cwlferti helpu i leihau gwaddodion mewn cyrff dŵr, rhywbeth sy’n gallu effeithio ar ansawdd dŵr a chynefinoedd dyfrol
Byddwch yn PestSmart - defnyddiwch blaladdwyr mewn ffordd gyfrifol
Rydyn ni’n gwybod bod plaladdwyr yn gallu chwarae rhan hanfodol mewn gwaith pob dydd. Er eu bod nhw’n cael eu rheoleiddio’n dynn, mae yna risg o hyd y gall plaladdwyr effeithio ar bobl, dŵr a bywyd gwyllt os ydyn nhw’n cael eu storio, eu defnyddio neu eu gwaredu mewn ffordd amhriodol.
Argymhellir Rheoli Plâu mewn Ffordd Integredig (IPM) fel dull fferm gyfan o reoli plâu, afiechydon neu chwyn mewn ffordd sy’n lleihau’r defnydd o blaladdwyr trwy arddell dull “atal yn lle gwella” o weithredu. Gall gweithio trwy’r camau IPM ddod â chanlyniadau gwell a rheolaeth tymor hwy.
- Ewch at wraidd y broblem
- Chwiliwch am ffyrdd o’i osgoi
- Ystyriwch fesurau rheoli heb blaladdwyr
- Wrth ddefnyddio plaladdwyr, cofiwch eu defnyddio, eu storio a’u gwaredu mewn ffordd briodol
- Cofnodwch a mesurwch lwyddiant dulliau, a’u haddasu i sicrhau’r canlyniadau gorau
Mae rhagor o gyngor ar gael yng Nghod Ymarfer yr HSE ar Ddefnyddio Cynnyrch Amddiffyn Planhigion