Ffermio a Dŵr
Rydyn ni’n gwybod bod beth sy’n digwydd ar y tir yn gallu effeithio ar ansawdd dŵr, felly mae’r ffordd y mae tir fferm yn cael ei ddefnyddio’n chwarae rhan allweddol wrth amddiffyn ansawdd y dŵr yn ein dalgylchoedd dŵr yfed.
Mae’r rhan fwyaf o’r tir yn ein dalgylchoedd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol, ac rydyn ni’n cydnabod fod gan ffermwyr rôl allweddol i’w chwarae wrth helpu i amddiffyn ein ffynonellau dŵr yfed.
Mae rheolaeth dda ar bridd, dŵr, maethynnau a phlaladdwyr yn bwysig er mwyn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd dŵr, gan leihau’r perygl o lifogydd a sychder, ac atal colli adnoddau gwerthfawr o’r tir.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ffermwyr a rheolwyr tir ar draws y DU wedi gwneud ymdrech sylweddol i roi amrywiaeth o arferion gorau ar waith i leihau’r effeithiau ar ansawdd dŵr - rydyn ni am helpu i hyrwyddo’r ymyraethau syml yma eu gellir eu hefelychu’n rhwydd, sy’n gallu dod â deiliannau sy’n fuddiol i bawb o ran proffidioldeb ffermydd, ansawdd dŵr yfed a’r amgylchedd ehangach.
Trwy ein gwaith gyda ffermwyr, rydyn ni wedi dysgu bod yr arferion canlynol yn gallu cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant ffermydd. Parhewch i ddarllen am fanylion.
Iechyd y pridd – pam fod hyn yn bwysig a beth y gallwch ei wneud:
Gofalwch em eich pridd, a bydd y pridd yn gofalu amdanoch chi!
Mae iechyd y pridd yn rhywbeth sy’n cael ei gymryd yn ganiataol yn aml, ond mae deall sut mae nodweddion ffisegol, cemegol a biolegol pridd yn rhyngweithio â’i gilydd, a rheoli priddoedd mewn ffordd briodol yn hanfodol i gael y gorau ohonynt.
Bydd pridd iach yn gwrthsefyll sychder yn well, ac yn cynnal mwy o faethynnau sy’n gallu cynyddu cynhyrchiant a phroffidioldeb ffermydd, a hynny wrth amddiffyn yr amgylchedd. Awgrymiadau:
- Mae profi rheolaidd yn darparu gwybodaeth werthfawr am pH, lefelau maethynnau a mater organig yn y pridd.
- Bydd gwybod eich rhifau yn llywio penderfyniadau ar:
- Anghenion o ran gwrtaith a thail
- Cywiro pH
- Cynyddu mater organig
- Mynd i’r afael â chywasgiad y pridd
Astudiaeth Achos TarddLe: Effeithiau profi’r pridd ar gynhyrchiant ffermydd
Rheoli maethynnau - manteision cynllunio
Gall cynllunio defnydd effeithlon o faethynnau a manteisio i’r eithaf ar werth gwrtaith organig gael y gorau allan o wrteithiau gwneud ac atal colli maethynnau. Awgrymiadau:
- Byddwch yn ymwybodol o ofynion eich cnydau a defnyddiwch ganlyniadau profi pridd sicrhau cydbwysedd ac argaeledd maethynnau
- Mwyafu effeithlonrwydd eich defnydd o faethynnau trwy ystyried pedwar ffactor rheoli maethynnau sef: Cynnyrch cywir, Cyfradd gywir, Lle cywir ac Amser cywir.
- Ystyriwch ddefnyddio technoleg i lywio penderfyniadau e.e. gorsafoedd tywydd lleol
- Gall storio gwrteithiau da byw a slyri mewn ffordd briodol atal dŵr ffo llawn maethynnau rhag mynd i gyrsiau dŵr
Am gyngor pellach, darllenwch y Llawlyfr Gwrtaith (RB209)
Astudiaeth Achos TarddLe: Manteision defnyddio gorsafoedd tywydd ar ffermydd
Cadwch y pridd ar eich tir - pan fydd e wedi mynd, ddaw e byth nôl!
Pridd yw yr adnodd naturiol pwysicaf un ar unrhyw fferm. Mae’n dylanwadu ar systemau ffermio ac yn cael effaith sylweddol ar faint ac ansawdd cnydau a glaswellt.
Bydd mabwysiadu’r arferion rheoli canlynol, ynghyd â chaniatáu pellteroedd gweithio digonol o gyrsiau dŵr, yn helpu i gadw pridd ar y tir ac yn amddiffyn yr amgylchedd ac ansawdd y dŵr:
Cynllunio cnydau – y lle cywir, y cnwd cywir:
Lleoliad – defnyddiwch wybodaeth leol i ystyried pethau fel cylchdroi cnydau, goleddf, cyrsiau dŵr cyfagos, y perygl o lifogydd. Gellir cofnodi hyn ar fap risgiau
Math ac amrywiaeth – ystyriwch beth sy’n cael ei blannu er mwyn lleihau faint o bridd sydd heb ei orchuddio
Iechyd y pridd – sicrhewch fod y pridd mewn cyflwr da er mwyn sicrhau amgylchedd gwydn
Rheoli cnydau - llesteiriwch lif dros y tir trwy:
Dechnegau trin – ystyriwch opsiynau sy’n tarfu cyn lleied â phosibl ar y pridd, cyfeiriad y rhesi, a’r cyfuchlinau aredig
Cnydau gorchudd – osgowch gyfnodau estynedig o bridd noeth
Gosodwch leiniau clustogi ym mhwynt isaf y cae, a phorwch y cnydau fesul stribed o’r pwynt uchaf i lawr
Astudiaeth Achos TarddLe: Astudiaeth achos ar fanteision mapio risgiau
Byddwch yn PestSmart - defnyddio plaladdwyr mewn ffordd gyfrifol
Rydyn ni’n gwybod bod plaladdwyr yn chwarae rhan hanfodol ym myd amaeth. Er eu bod yn cael eu rheoleiddio’n dynn, mae yna risg o hyd y gall plaladdwyr effeithio ar bobl, dŵr a bywyd gwyllt os ydyn nhw’n cael eu storio, eu defnyddio neu eu gwaredu mewn ffordd amhriodol.
Mae Rheoli Plâu mewn Ffordd Integredig (IPM) yn ddull fferm gyfan o reoli plâu, afiechydon neu chwyn ar gnydau mewn ffordd sy’n lleihau’r defnydd o blaladdwyr trwy arddel dull “atal yn lle gwella” o weithredu. Gall gweithio trwy’r camau IPM arwain at ganlyniadau gwell a rheolaeth tymor hwy:
- Deall beth sydd wrth wraidd problem
- Chwilio am ffyrdd o’i hosgoi
- Ystyried mesurau rheoli heb blaladdwyr
- Wrth ddefnyddio plaladdwyr, eu defnyddio, eu storio a’u gwaredu mewn ffordd briodol
- Cofnodi a mesur llwyddiant dulliau, a’u haddasu i sicrhau’r canlyniadau gorau
Darllenwch ein Llyfryn a’n Poster PestSmart
Mae rhagor o gyngor ar gael yng Nghod Ymarfer yr HSE ar Ddefnyddio Cynnyrch i Amddiffyn Planhigion a gyda’r Fenter Wirfoddol
Rheoli da byw – manteision i bawb
Mae sicrhau cyflenwad hygyrch o ddŵr glân, a rheoli da byw yn dda yn allweddol i berfformiad ac iechyd anifeiliaid.
- Mae lleihau eu cysylltiad â chyrsiau dŵr yn gallu cael effaith gadarnhaol ar y fferm ac ar y dalgylch i lawr y llif
- Cyfyngwch ar gysylltiad da byw â chyrsiau dŵr er mwyn:
- lleihau datguddiad i organebau ysgarthol fel E.coli a chryptosporidiwm
- lleihau datguddiad i organebau ysgarthol fel E.coli a chryptosporidiwm
- Defnyddiwch drefn pori sy’n osgoi cywasgiad a sathru er mwyn osgoi’r risg o erydiad y pridd a chynyddu cynnyrch glaswellt
- Ystyriwch gyflenwadau dŵr amgen er mwyn lleihau datguddiad anifeiliaid i bathogenau ac afiechydon
- Dilynwch arferion gorau bob tro wrth ddefnyddio a gwaredu dip defaid – Mae rhagor o fanylion yma
Astudiaeth Achos TarddLe: mesurau ar y fferm i leihau ymlediad cryptosporidiwm mewn defaid
Am ragor o gynghorion, darllenwch y Cod Arferion Amaethyddol Da a gwybodaeth Cyswllt Ffermio