Cymunedau a Dŵr
Mae gan bawb sy’n byw yn ein dalgylchoedd dŵr yfed ran i’w chwarae wrth ein helpu ni i amddiffyn ansawdd dŵr ac amddiffyn yr amgylchedd ehangach.
O fewn ein dalgylchoedd dŵr yfed, mae gan drigolion a chymunedau ran hanfodol i’w chwarae wrth reoli dalgylchoedd yn dda.
Mae rheoli tanwydd, gwastraff a chemegolion domestig fel plaladdwyr yn chwarae rhan sylweddol wrth gael effaith gadarnhaol ar ansawdd dŵr a lleihau llifogydd carthion.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o drigolion a chymunedau wedi gwneud ymdrechion sylweddol i fabwysiadu arferion gorau i leihau eu heffaith ar ansawdd dŵr. Rydyn ni’n awyddus i helpu i hyrwyddo’r newidiadau syml yma a’r ymyraethau y gellir eu hefelychu’n rhwydd, sy’n gallu cyflawni atebion sy’n fuddiol i bawb, gan gynnwys trigolion, ansawdd dŵr a’r amgylchedd ehangach.
Trwy ein gwaith gyda thrigolion a chymunedau, rydyn ni wedi dysgu bod yr arferion gorau canlynol yn gallu cael effaith gadarnhaol ar aelwydydd. Parhewch i ddarllen am fanylion.
Byddwch yn PestSmart - defnyddiwch chwynladdwyr a phlaladdwyr mewn ffordd gyfrifol
Mae plaladdwyr fel chwynladdwyr neu peledi gwlithod yn cael eu defnyddio’n gyffredin i reoli chwyn, plâu ac afiechydon planhigion, ond os ydyn nhw’n cael eu defnyddio neu eu gwaredu mewn ffordd amhriodol, maen nhw’n gallu ffeindio’u ffordd i’r dŵr a’r amgylchedd.
Wrth ddefnyddio plaladdwyr, dilynwch y canllawiau storio, defnydd a gwaredu sydd ar y label. Ystyriwch ddefnyddio dulliau nad ydynt yn cynnwys plaladdwyr wrth ofalu am fannau awyr agored er mwyn lleihau’r risgiau i bobl, dŵr a bywyd gwyllt.
Ewch i’n gwefan PestSmart am awgrymiadau ar arddio heb blaladdwyr.
Storio Tanwydd
Rhaid storio tanciau swmp o olew neu danwydd gwres a’u cynnal yn gyson â’r safonau rheoliadol. Bydd hyn yn lleihau’r risg o ollyngiadau sy’n mynd i ddraeniau neu gyrsiau dŵr, a allai effeithio ar ansawdd dŵr a’r amgylchedd i lawr y llif.
Mae rhagor o fanylion gan yr Ymgyrch Gofal am Olew
Systemau Gwastraff Preifat
Dylid cynnal a gweithredu tanciau septig, a gweithfeydd trin dŵr gwastraff preifat eraill, yn gyson â safonau rheoliadol a dyluniad y systemau. Bydd hyn yn lleihau’r risg o sarnu maethynnau a phathogenau a allai effeithio ar yr amgylchedd dyfrol.
Gallwch gael rhagor o fanylion gan Gyfoeth Naturiol Cymru neu Asiantaeth yr Amgylchedd (Lloegr).
Stop Cyn Creu Bloc
Peidiwch â fflysio dim ond y “3 P” (pi-pi, pŵ, papur). Gall fflysio eitemau eraill achosi bloc a hyd yn oed achosi byrst lle mae’r gwastraff yn cael ei golli i’r amgylchedd dŵr. Peidiwch â fflysio weips, ffyn gwlân cotwm, na chynnyrch mislif, a thaflwch fraster, olew a saim i’r bin. Dilynwch ganllawiau’r gwneuthurwr i waredu unrhyw gynnyrch niweidiol arall fel paent, toddyddion neu chwynladdwyr - peidiwch byth â’u golchi i lawr y draen.
Mae rhagor o fanylion yn Stop Cyn Creu Bloc.