Amwynder a Dŵr
Rydyn ni’n gwybod bod beth sy’n digwydd ar y tir yn gallu effeithio ar ansawdd dŵr, felly mae’r ffordd y mae ardaloedd amwynder yn cael eu defnyddio’n allweddol wrth amddiffyn dŵr wyneb yn ein dalgylchoedd dŵr yfed.
Mae yna amrywiaeth eang o ardaloedd amwynder yn ein dalgylchoedd dŵr yfed, o barciau a meysydd chwarae i ffyrdd a rheilffyrdd, sy’n cyflawni swyddogaeth hanfodol yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Gall rheolaeth dda ar ardaloedd amwynder helpu i atal plaladdwyr, sediment a thanwydd rhag ymdreiddio i gyrsiau dŵr, a lleihau’r perygl o lifogydd.
Mae aelodau o’r sector, fel awdurdodau lleol, asiantaethau trafnidiaeth a chontractwyr, wedi gwneud ymdrechion sylweddol i roi arferion gorau ar waith i leihau’r effaith ar ansawdd dŵr mewn blynyddoedd diweddar. Rydyn ni am helpu i hybu’r dulliau yna o weithio er mwyn darparu deiliannau sy’n fuddiol i bawb, gan gynnwys y gymuned, ansawdd dŵr yfed a’r amgylchedd ehangach.
Trwy ein gwaith gyda’r sector amwynder, rydyn ni wedi dysgu bod yr arferion canlynol yn gallu cael effaith gadarnhaol ar reoli ardaloedd amwynder ac amddiffyn ansawdd dŵr. Parhewch i ddarllen am fanylion.
Byddwch yn PestSmart - defnyddiwch blaladdwyr mewn ffordd gyfrifol
Rydyn ni’n gwybod bod plaladdwyr yn gallu chwarae rhan hanfodol mewn gwaith pob dydd. Er eu bod nhw’n cael eu rheoleiddio’n dynn, mae yna risg o hyd y gall plaladdwyr effeithio ar bobl, dŵr a bywyd gwyllt os ydyn nhw’n cael eu storio, eu defnyddio neu eu gwaredu mewn ffordd amhriodol.
Argymhellir Rheoli Plâu mewn Ffordd Integredig (IPM) fel ffordd o reoli plâu, afiechydon neu chwyn sy’n lleihau’r defnydd o blaladdwyr trwy arddell dull “atal yn lle gwella”. Gall gweithio trwy’r camau IPM isod arwain at ganlyniadau gwell a rheolaeth tymor hwy:
- Ewch at wraidd y broblem
- Chwiliwch am ffyrdd o’i osgoi
- Ystyriwch fesurau rheoli heb blaladdwyr
- Wrth ddefnyddio plaladdwyr, cofiwch eu defnyddio, eu storio a’u gwaredu mewn ffordd briodol
- Cofnodwch a mesurwch lwyddiant dulliau, a’u haddasu i sicrhau’r canlyniadau gorau
Darllenwch ein Llyfryn a’n Poster PestSmart
Mae rhagor o gyngor ar gael yng Nghod Ymarfer yr HSE ar Ddefnyddio Cynhyrchion Amddiffyn Planhigion a gan y Fforwm Amwynder.
Defnyddio Tanwydd ac Olew yn Ddiogel
Mae hi’n hanfodol dilyn arferion gorau wrth storio, defnyddio a gwaredu tanwydd ac olew ar y safle er mwyn osgoi colledion sy’n gallu gollwng i mewn i gyrsiau dŵr gan effeithio ar ansawdd dŵr a bywyd dyfrol. Argymhellir cario pecynnau sarnu a’u defnyddio yn achos digwyddiad, a dylid hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru neu Asiantaeth yr Amgylchedd am unrhyw beth sy'n cael ei sarnu yn y dŵr er mwyn iddynt roi gwybod i ni os yw’n digwydd i fyny’r llif o fan codi dŵr.
Gallwch gael rhagor o fanylion gan yr Ymgyrch Gofal am Olew.
Rheoli Dŵr Wyneb
Hyrwyddwch gosod systemau fel pantiau, gwlyptiroedd, gerddi glaw a thoeau gwyrdd er mwyn helpu i reoli dŵr wyneb ffo. Gall arafu a lleihau faint o ddŵr sy’n llifo dros wyneb y tir leihau’r perygl o lifogydd a lleihau’r risg fod y dŵr yn codi sylweddau fel pridd, plaladdwyr neu olew, sy’n gallu effeithio ar ansawdd dŵr.
Mae rhagor o fanylion am ddull gweithredu Dŵr Cymru o ran Draenio Trefol Cynaliadwy yma.