Rhaglen Addysg Ysgolion yr Afon


Rhaglen addysg yw ‘Ysgolion yr Afon’. Groundwork Gogledd Cymru sy’n cyflwyno’r rhaglen mewn ysgolion, a hynny ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru. Y nod yw addysgu a chodi ymwybyddiaeth am amgylchedd yr afon.

Caiff y rhaglen ei chyflwyno i ysgolion mewn 24 dalgylch yn y gogledd sy’n methu ag ennill statws ‘da’ WFD. Am fod plant yn aml yn gatalydd i beri i oedolion weithredu, mae ymgysylltu plant ysgol yn rhan annatod o’r gwaith o helpu cymunedau i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd.

Dyfarnodd Dŵr Cymru gyllid i ddatblygu’r rhaglen, a gwnaed cynnydd sylweddol hyd yn hyn yn sgil llwyddiant y rhaglen beilot. Mae’r rhaglen wedi bod mor llwyddiannus ei bod hi’n bosibl y caiff ei chopïo mewn rhannau eraill o’r wlad.