Prosiect Olwy a Throddi Sir Fynwy, Sefydliad Gwy ac Wysg


Mae afonydd Olwy a Throddi yn dioddef yn helaeth yn sgil effeithiau llygredd amaethyddol gwasgaredig, gydag achosion gweddol gyson o lygredd yn y tarddle yn peri iddynt fethu statws ‘da’ WFD.

Dyfarnodd Dŵr Cymru gyllid i brosiect Olwy a Throddi Sir Fynwy (MOAT) er mwyn lleihau effeithiau andwyol amaethyddiaeth ar y dalgylch. “Bydd y prosiect yn lleihau baich y ffosffadau a’r sediment mân a’r risg o lygredd gwasgaredig sy’n deillio o bob fferm, gan wella’r pysgodfeydd a’r crynofeydd dŵr ymhellach i lawr yr afon”.

Mae MOAT yn cynnig asesiadau cyfrinachol i ffermwyr yr ardal am ddim, ac yn cynnig argymhellion a chyngor iddynt ar ffyrdd o wella eu harferion ffermio ac atal llygredd amaethyddol. Mae’r prosiect yn cael ei gyflawni mewn ffordd ddilyniannol gan weithio i lawr yr afon trwy’r dalgylch, ac ar y cyfan, mae ymateb y ffermwyr wedi bod yn gadarnhaol. “Mae llwyddiant y prosiect wrth leihau llygredd gwasgaredig yn deillio o’i waith ymgysylltu’r gymuned ffermio i gyd.”

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect YMA.