Prosiectau GlawLif eraill
Ceir llawer o ardaloedd eraill ledled Cymru a fydd yn elwa ar brosiect Rainscape. Gallwch gael gwybodaeth am brosiectau eraill isod.
Cil-y-coed, De Cymru
Roedd y prosiect GlawLif hwn yn troi o gwmpas ystâd Castle Lea ger afon Neddern yng Nghil-y-coed. Mae problemau wedi codi yn yr ardal mewn blynyddoedd diweddar am fod carthffosydd yn gorlifo a’r priffyrdd dan ddŵr am na all y system garthffosiaeth ymdopi. Roedd y cynigion cychwynnol yn edrych ar greu gorsaf bwmpio i bwmpio’r dŵr wyneb o’r ystâd i’r afon, ond roedd yna deimlad nad oedd hyn yn llesol i’r amgylchedd, ac roedd y gost o £2.1 miliwn yn ormodol.
Yn hytrach, fe benderfynon ni ddatrys y broblem trwy ddefnyddio system fwy cynaliadwy, sy’n defnyddio storfeydd i gadw’r dŵr llif.
Roedd y prosiect GlawLif hwn yn cynnwys darparu carthffos dŵr wyneb newydd i gael gwared ar y dŵr o ffyrdd yr ystâd. Mewn cyfnodau o law trwm, neu pan fo loc llanw’r afon ar gau, mae llif y dŵr bellach yn cael ei ddargyfeirio i fan rhyddhau yn y system, yn hytrach nag i’r nant. Wedyn caiff ei ryddhau i faes chwarae, lle bydd y dŵr naill ai’n ymdreiddio i’r cae neu’n dychwelyd i’r afon trwy'r rhwydwaith ar ôl i lefel y dŵr ostwng.
Cyfanswm cost y prosiect oedd £1.25 miliwn, sydd wedi arbed £850,000 i’n cwsmeriaid. Llwyddodd hyn hefyd i sicrhau nad yw 10 eiddo a oedd gynt ar ein cofrestr mewn perygl o ddioddef llifogydd mwyach.
Rhodfa Trelawney, Caerdydd
Mae’r prosiect GlawLif yma’n troi o gylch Rhodfa Trelawney yn Nhredelerch, Caerdydd, lle mae llifogydd yn effeithio ar y briffordd a’r tu allan i ddau eiddo mewn cyfnodau o law trwm.
Nod y prosiect oedd creu draen dŵr er mwyn atal y dŵr wyneb o’r ffyrdd rhag llifo i’r rhwydwaith, gan ddargyfeirio’r llif i rwydwaith dŵr wyneb sy’n bodoli eisoes mewn stryd gyfagos. Yn ogystal â hynny, adeiladwyd wal i amddiffyn eiddo rhag effeithiau posibl dŵr ffo.
Fel mesur terfynol i amddiffyn yr eiddo, fe ddatgysyllton ni 75 eiddo i fyny’r afon o Rodfa Trelawney trwy roi casgenni casglu dŵr i’r trigolion, a dargyfeirio’r pibellau draenio o’r toeau i’r casgenni dŵr yma.
Cyfanswm cost y cynllun oedd £433,000.
Dŵr Cymru, Glaslyn Casnewydd
Ym mis Medi 2013, buddsoddodd Dŵr Cymru £10.4m i greu labordy newydd hollol fodern i brofi ansawdd dŵr yng Nghasnewydd.
Mae’r cynllun GlawLif yn y datblygiad yn dargyfeirio’r glawlif o’r to 25,000tr sgwâr i gyfres o fannau plannu sydd wedi eu dylunio i lanhau’r llif cyn ei ryddhau i bwll agored. Mae hyn yn helpu i leihau faint o ddŵr wyneb y mae’r safle’n ei gynhyrchu.
Mae labordy Glaslyn yn gweithredu i’r safonau amgylcheddol uchaf posibl hefyd. Mae llu o baneli solar ar do’r adeilad sy’n cynhyrchu trydan ar gyfer y safle ac yn lleihau ei ôl-troed carbon.
Enillodd yr adeilad Wobr Aur yng Ngwobrau Contractwyr AIS am y safonau uchel y crefftwaith a’r dyluniad, ac am gyflawni prosiectau eithriadol o ansawdd a gwerth nodedig.