Sut y gallwch chi fod yn rhan o GlawLif
Gallwch ein helpu ni i leihau faint o ddŵr wyneb sy’n mynd i’n rhwydwaith o garthffosydd mewn nifer o wahanol ffyrdd.
Casglu glawlif
Er mwyn helpu i leihau faint o ddŵr wyneb sy’n llifo i’n carthffosydd, a lleihau faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio ar yr aelwyd, gallech gasglu’r glawlif o’ch pibellau draenio mewn casgenni dŵr. Gallrch ddefnyddio’r dŵr o’r casgenni i ddyfrio’r ardd, gan helpu i leihau faint o ddŵr tap rydych chi’n ei ddefnyddio.
Mae systemau mwy datblygedig ar gael erbyn hyn, a gallwch osod y rhain er mwyn ailddefnyddio dŵr i fflysio’r tŷ bach ac ati. Os ydych chi’n ystyried defnyddio dŵr glaw i fflysio’r tŷ bach, dylech siarad â phlymwr sydd wedi cofrestru gyda WaterSafe er mwyn osgoi trawsgysylltu’r glawlif “llwyd” â’ch cyflenwad dŵr glân.
Gerddi glaw
Trwy ddatgysylltu eich pibell draenio o’r rhwydwaith garthffosiaeth a dargyfeirio’r dŵr i ardd law, gallech greu ardal a fydd yn arafu llif y dŵr wyneb gan adael iddo lifo i’r ddaear. Yn ogystal â bod yn nodwedd ddeniadol yn eich gardd, mae gardd law yn gallu bod yn hafan i bryfed ac anifeiliaid bychain hefyd.
GlawLifiwch eich man parcio
Mae’r newidiadau diweddar o ran caniatâd chynllunio’n golygu, os ydych chi’n bwriadu gosod man parcio caled newydd o flaen eich cartref, rhaid i chi naill ai ddargyfeirio dŵr wyneb ffo i ardal fandyllog neu hydraidd ar eich tir, neu ddefnyddio deunyddiau mandyllog neu hydraidd. Mae cerrig palmant hydraidd wedi eu dylunio fel eu bod yn gadael i’r glawlif ymdreiddio trwy’r wyneb, ac maent yn dod ym mhob lliw a llun.
Neu, yn hytrach na gorchuddio’r ardal gyfan, gallech ystyried gosod cerrig palmant lle mae’r teiars yn mynd yn unig, neu ychwanegu gwelyau blodau neu erddi glaw i’r dyluniad.
Toeau gwyrdd
Cewch osod toeau gwyrdd hefyd, sy’n eich helpu chi i leihau faint o ddŵr wyneb sy’n llifo i’n system. Mae toeau gwyrdd yn dod mewn amrywiaeth o fathau o blanhigion, o rai sy’n gofyn am ychydig iawn o waith rheoli, i laswellt blodau gwyllt, lle mae’r blodau yn darparu cynefinoedd a bwyd i bryfed. Mae toeau gwyrdd yn gallu ymestyn oes eich to a darparu rhagor o inswleiddiad yn ogystal â bod yn gynefin ar gyfer bywyd gwyllt.
Mae toeau gwyrdd yn gallu ychwanegu pwysau at eiddo, felly mae angen eu hystyried yn gynnar yn y broses o ddylunio adeiladau newydd. Nid yw hynny’n golygu na ellir eu gosod ar eiddo sy’n bodoli eisoes – ond cofiwch ofyn am gyngor arbenigol yn gyntaf.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o ffyrdd o fynd ati i ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon yn eich cartref hefyd. Mae hyn yn helpu i leihau faint o ddŵr budr sy’n mynd i’r system garthffosiaeth, a lleihau faint o ddŵr sy’n cael ei godi o’r amgylchedd i fodloni’r galw am ddŵr glân.
I gael rhagor o fanylion yn hyn o beth, ewch i’n tudalen effeithlonrwydd dŵr.