Bagloriaeth Cymru
A ninnau’n un o gwmnïau mwyaf Cymru, rydym yn chwarae rhan allweddol yn darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol i gwsmeriaid heddiw. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli hefyd bod gennym gyfrifoldeb tuag at genedlaethau’r dyfodol a dyna pam yr ydym wedi datblygu adnoddau a heriau i gefnogi cymhwyster newydd Bagloriaeth Cymru.
Mae Bagloriaeth Cymru’n gwneud lles i’r bobl ifanc yn ein cymunedau ac i ninnau fel busnes. Mae’r bartneriaeth rhwng y busnes ac addysg yn rhoi hyder, sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth i bobl ifanc gan sicrhau cronfa o unigolion dawnus a dyfeisgar.
Rydym wedi bod yn cydweithio â’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg i Dde Ddwyrain Cymru (EAS) i baratoi Pecyn Addysgu a Dysgu i helpu athrawon CA4 â’r Her Dinasyddiaeth Fyd-eang ar lefel Cenedlaethol/Sylfaen.
Yn ogystal â heriau a gymeradwyir gan CBAC,rydym yn gweithio’n barhaus i ddatblygu deunyddiau newydd i ddatblygu sgiliau dysgwyr a’u gwybodaeth am Dŵr Cymru.