Wateraid
Yma yng Nghymru, rydyn ni’n ddigon ffodus i fwynhau dŵr ffres a glân yn syth o’r tap yn ein cartrefi. Yn anffodus, nid pawb sydd mor lwcus, ac mae dŵr yn brin mewn sawl rhan o’r byd. Nod WaterAid yw newid hynny.
Mae llawer o bobl yn y byd yn gorfod cerdded yn bell i gasglu eu dŵr yfed. Mae angen dŵr glân arnom ni i gyd, dim ots pwy ydyn ni nac ymhle rydyn ni’n byw.
Ond mae 696 miliwn o bobl ar y Ddaear - bron i 1 ym mhob 10 ohonom ni - yn dal i fyw heb ddŵr yfed glân yn agos at ein cartrefi. Mae WaterAid yn gweithio gyda phobl, cymunedau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddarparu dŵr glân, toiledau addas a hylendid da.
Ers 2017, mae WaterAid Uganda wedi bod yn helpu i wella gwasanaethau dŵr mewn trefi bach yn Uganda. Mae’n nhw’n helpu i sicrhau gwell rheolaeth, trwsio gollyngiadau a helpu i godi arian er mwyn cadw’r dŵr yn llifo. Gyda chymorth gwybodaeth dechnegol a chyngor Dŵr Cymru, mae ardaloedd Buyende, Namayingo a Namutumba yn datblygu eu hymdrechion i helpu mwy o bobl i gael dŵr glân.