Y Gylchred Ddŵr


Y gwir: does dim fath beth â dŵr newydd

Cylchred Ddŵr yw’r daith ddi- ben draw mae dŵr yn ei ddilyn wrth gylchdroi o’r cymylau i’r tir, yna llifo i’r môr ac yn ôl eto i’r awyr. Ffordd naturiol o lanhau ac ailgylchu'r holl ddŵr ar y ddaear yw hon - a'r dŵr ffres yma sy'n gwneud bywyd ar y ddaear yn bosibl.

Nid oes unrhyw ddŵr newydd ar y blaned. Gan fod y gylchred yn gweithio drwy ‘system gaeëdig’ fel hon, rydym yn yfed yr un dŵr yfodd y deinosoriaid!

Oeddech chi'n gwybod?

  • Mae'n bosibl y gallai'r dŵr sydd yn eich gwydr fod wedi disgyn fel glaw mor ddiweddar â'r wythnos ddiwethaf.
  • Mae 97% o ddŵr y byd yn y moroedd. Mae 2% o ddŵr y byd wedi ei rewi mewn rhewlifoedd. Llai nag 1% yw'r dŵr ffres sydd ar gael i ni ei ddefnyddio.
  • Mae'r gylchred ddŵr yn ymrannu'n wahanol ddarnau: anweddiad; cyddwysiad; dyddodiad; dŵr ffo; ymdreiddiad a thrydarthiad.
  • Dŵr yw 70% o'ch corff.

Deunydd a gwybodaeth i’w lawrlwytho

Os ydych chi'n awyddus i ddysgu rhagor am y cylch dŵr, dewch i'n gweld ni yn un o'n canolfannau darganfod.