Trin Dŵr Gwastraff
Yn ogystal â gwneud y dŵr yn lân i chi ei yfed, mae'n ddyletswydd arnom i wneud y dŵr rydym yn ei ddefnyddio yn lân ac yn ddiogel i'w ddychwelyd i'r amgylchedd.
Mae hynny’n golygu bod y dŵr o’ch bath neu’ch cawod, a’r dŵr sy’n cael ei fflysio i lawr y tŷ bach, yn gwneud ei ffordd i’n rhwydwaith carthffosiaeth a dŵr gwastraff. Mae’r rhwydwaith yma’n mynd â nhw i un o’n 833 o safleoedd trin dŵr gwastraff.
Ar ôl iddo gyrraedd, rydyn ni'n cael gwared ar unrhyw drochion sebon, graean, gronynnau trwm ac unrhyw beth arall a allai achosi niwed i'r amgylchedd. Rydyn yn gwneud hyn drwy amryw o brosesau, gan gynnwys triniaeth awyru a slwtsh.
Oeddech chi'n gwybod?
- Mae rhwydwaith carthffosydd Cymru, sy'n cludo'ch dŵr gwastraff i ffwrdd, dros 30,000km o hyd!
- Dydi’r cyfanswm o ddŵr sydd ar ein planed wedi newid fawr ddim ers dau biliwn o flynyddoedd.
- Dŵr yw'r unig sylwedd a geir yn naturiol mewn tair ffurf ar y ddaear: sef hylif, nwy a solid.
- Mae dŵr sydd wedi'w rewi 9% yn ysgafnach na dŵr, dyna pam y mae iâ yn arnofio ar ddŵr.
- Mae dros 90% o gyflenwadau dŵr ffres y byd yn yr Antartig.
Stop Cyn Creu Bloc
Weips yw un o brif achosion tagfeydd ar ein rhwydwaith, a dyna pam fod angen eich cymorth chi arnom ni. Mae fflysio pethau fel cewynnau, weips a pheli gwlân cotwm i’r tŷ bach, a golchi braster, olew a saim i lawr y sinc yn gallu achosi problemau mawr. Mae’n gallu achosi bloc yn eich cartref, llifogydd yn eich stryd ac effeithio ar eich amgylchedd lleol.
Pŵer Baw
Mae hi'n anodd credu ein bod ni'n gallu defnyddio dŵr gwastraff a charthffosiaeth i oleuo ein cartrefi, rydyn ni'n galw hyn yn Bŵer Baw!
Mae Pŵer Baw yn defnyddio bio-nwy, sy'n gyfoethog o ran methan, sy'n cael ei godi trwy'r broses o drin dŵr gwastraff a charthffosiaeth, i yrru tyrbinau. Mae'r bio-nwy, sy'n cynnwys methan yn bennaf, yn cael ei gynhyrchu wrth i facteria fwydo ar wastraff pobl ac anifeiliaid. Treulio anaerobig yw'r enw ar y broses hon. Mae'n ffordd wych o gynhyrchu ynni gwyrdd, ac o gael gwared ar wastraff, a'r meicro-organebau sy'n llechu ynddo. Un o'r ffyrdd symlaf o ddisgrifio treulio anaerobig yw bod miliynau o chwilod bychain bach yn y gwastraff yn 'torri gwynt', gan gynhyrchu bio-nwy.
Y peth da yw, wrth losgi'r bio-nwy i gynhyrchu trydan, mae llai o garbon deuocsid o lawer yn cael ei ryddhau nag wrth losgi tanwydd ffosil.
Oeddech chi'n gwybod?
- Mae'n cymryd baw 100,000 o bobl i gynhyrchu 51kW o drydan, sy'n ddigon i oleuo 500 bwlb golau.
Deunydd a gwybodaeth i’w lawrlwytho:
- Stopio'r Bloc (PDF)
- Dŵr gwastraff (PDF)
- Ble mae'ch dŵr gwastraff yn cael ei drin (PDF)
- Fflysio neu na? (Gêm Ddosbarthu) (PDF)
- Fflysio neu na? (Gweithgaredd Ymarferol) (PDF)
- Pos Geiriau (PDF)
- Carthffos Syml - pwy flociodd y pibellau gwastraff? (PDF)
- Drysfa Gwastraff (PDF)
- Proses Trin Gwastraff (PDF)
Os ydych chi'n awyddus i ddysgu rhagor am drin dŵr gwastraff, dewch i ymweld â ni yn un o'n canolfannau darganfod.